Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Cryfhau'r berthynas allweddol rhwng cynghorau cymuned ac awdurdodau lleol.
Dyddiad: Dydd Iau 20 Gorffennaf 2017
Amser: 10.30 - 15.00
Lleoliad: Pierhead
Disgrifiad: Cryfhau'r berthynas allweddol rhwng cynghorau cymuned ac awdurdodau lleol”. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn traddodi araith o bwys gerbron cynrychiolwyr yn y digwyddiad, ble y bydd trawstoriad o gynghorwyr a etholwyd yn lleol, yn ogystal â chlercod a swyddogion yn bresennol. Wrth ddod at ei gilydd, bydd y cynrychiolwyr yn rhannu profiadau o arfer da, yn nodi materion a rhwystrau cyffredin, ac yn cytuno ar gamau i weithredu arnynt yn eu sefydliadau eu hunain a’u rhwydwaith ehangach.
Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a'r Pierhead ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr