Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Byddwch yn rhan o ddathliadau penblwydd Mudiad Meithrin yn 45!
Dyddiad: Dydd Mawrth 28 Chwefror 2017
Amser: 11.00 - 14.00
Lleoliad: Ystafell Plant a Rhieni yn y Senedd
Disgrifiad: Mae Mudiad Meithrin (www.meithrin.cymru) yn cael ei ben-blwydd yn 45 mlwydd oed ac yn cynnal “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” ar y 9fed o Fai i ddathlu! I baratoi at y dathliadau ac i’n helpu i dorri’r record byd, dewch i gael tynnu’ch llun gyda Dewin (ein mascot). Peidiwch poeni, fydd dim raid i chi wisgo PJs! Bydd Dr Gwenllian Lansdown Davies - Prif Weithredwr Mudiad Meithrin - yn bresennol felly mae cyfle am sgwrs hefyd i drafod polisi gofal plant, dilyniant, y blynyddoedd cynnar, addysg Cyfnod Sylfaen ayyb.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr