Digwyddiad
DIGWYDDIAD: “CRE8”, sef digwyddiad gan Glwstwr Dosbarth Busnes Blaenau’r Cymoedd.
Dyddiad: Dydd Llun 30 Ionawr 2017
Amser: 09.30 - 15.00
Lleoliad: Senedd
Disgrifiad: Rownd derfynol y gystadleuaeth i ddisgyblion Blwyddyn 9 o ysgolion ardal Blaenau Gwent a Merthyr. Mae’r timau i gyd eisoes wedi cydweithio i greu cynnyrch sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, gan defnyddio deunyddiau ailgylchadwy. Yn y rownd derfynol, bydd pob tîm yn mireinio’u cynnyrch gan ei baratoi i’w werthu, drwy ddylunio a chynllunio strategaeth farchnata.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn hygyrch ac yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr