Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Gweledigaeth a rennir ar gyfer y sector awyr agored yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 29 Mawrth 2016

Amser: 12.00 - 13.15

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at egwyddorion allweddol y mae rhanddeiliaid strategol yn y sector awyr agored wedi’u nodi a’u cefnogi. Mae Blwyddyn Antur 2016 yn gyfle gwych i sefydliadau’r sector awyr agored yng Nghymru gydweithio er mwyn hyrwyddo cyfres o egwyddorion allweddol i Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar yr awyr agored, a hynny er mwyn creu sylfaen ar gyfer polisïau’r dyfodol. Mae'r rhain hefyd yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant sydd wedi’u nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Er bod cydnabyddiaeth yn y sector awyr agored o statws pwysig y sector ym meysydd twristiaeth, hamdden a chwaraeon, mae cydnabyddiaeth hefyd ei fod yn berthnasol i nifer o adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Amgylchedd, Addysg, Sgiliau, Busnes, Iechyd a Diwylliant. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei hadlewyrchu drwy’r ddogfen, sy’n fan cychwyn ar gyfer papur mwy cynhwysfawr ar gyfer pob un o'r chwe egwyddor allweddol, a fydd yn cynnwys cyfeiriadau a lincs i bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr