Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Yr Achos dros Wella Capasiti Ymchwil i Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM) yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Iau 14 Mai 2015

Amser: 13.10 - 14.15

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Cefndir y digwyddiad: Mae’r Athro Peter W Halligan (Cymdeithas Ddysgedig Cymru) a Dr Louise Bright (Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru) wedi ysgrifennu papur adolygu hanesyddol sydd i’w gyhoeddi gan y Sefydliad Arweinyddiaeth (LFHE) fel un o’i bapurau ymchwil ym mis Mai. Mae LFHE yn un o sefydliadau’r DU sy’n darparu cymorth a chyngor ar arweinyddiaeth, llywodraethiant a rheolaeth mewn addysg uwch (gweler www.lfhe.ac.uk).www.lfhe.ac.uk) Cefndir y Papur Bu sicrhau ‘cyfran safonol’ o gyllid cyngor ymchwil y DU i Gymru yn flaenoriaeth hirdymor i bolisi Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg dethol a hanesyddol o’r prif resymau pam na chyrhaeddwyd y targed hwn, er gwaethaf amrywiaeth o fentrau. Rydym yn dadlau bod prifysgolion Cymru wedi sicrhau llai o incwm ymchwil ar gyfartaledd gan y cynghorau ymchwil gwyddonol a meddygol gwariant uchel o ganlyniad, i raddau helaeth, i’r diffyg hanesyddol o ymchwilwyr meddygol a gwyddonol academaidd sy’n gweithio ym myd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM) yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi amcangyfrif cyfredol o’r diffyg staff STEMM yng Nghymru gan amcangyfrif bod gan brifysgolion Cymru ddiffyg staff ymchwil cyfunol o tua 0.5%, o’i gymharu â’i chyfran safonol o’r boblogaeth. Gan adeiladu ar fenter Sêr Cymru, mae’r adroddiad yn nodi bod Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ar hyn o bryd yn arwain mentrau sy’n canolbwyntio ar wella capasiti staff STEMM

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr