Digwyddiad

ARDDANGOSFA: See Me! Arddangosfa o waith celf a straeon plant sy'n derbyn gofal

Dyddiad: Dydd Llun 11 Mai 2015 i ddydd Gwener 15 Mai 2015

Lleoliad: Oriel y Senedd

Disgrifiad: Mae arddangosfa flynyddol “See Me!” y Sefydliad Cydweithredol Gofal Maeth yn cynnwys gwaith celf a straeon plant sy'n derbyn gofal o bob cwr o Gymru. Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi treulio amser yn mynegi eu safbwyntiau a'u teimladau ynghylch byw mewn gofal drwy dynnu lluniau, paentio a gwneud mathau eraill o waith celf. Mae'r arddangosfa yn llawer mwy na chasgliad o baentiadau. Mae'n dangos ôl-brofiadau a mynegiant o safbwyntiau personol drwy lygaid pobl ifanc sy'n rhan o'r system ofal yng Nghymru. Fel casgliad mae'n gipolwg cynnes, adfywiol ac weithiau'n agos at y byw o feddyliau pobl ifanc, sy'n edrych tuag at y dyfodol gyda chefnogaeth ddigyfnewid eu gofalwyr maeth a sefydliadau fel y Sefydliad Cydweithredol Gofal Maeth

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr