Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynhadledd Cymru Greadigol 2015 a Brecwast Busnes

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Ebrill 2015

Amser: 08.00 - 14.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Ddydd Mercher Ebrill 29ain bydd Y Pierhead yn croesawu Cynhadledd Cymru Greadigol 2015. Mae’n cael ei chynnal gan Goleg Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth â’r Academi Sgiliau Genedlaethol: Sgiliau Creadigol a Diwylliannol. Bydd y gynhadledd yn edrych ar bopeth creadigol yng Nghymru, gan astudio’r sector diwydiant allweddol hwn o bersbectif Addysg Bellach (AB). Hefyd, yn ychwanegol at y gynhadledd undydd gyda’i ffocws ar AB, rydym yn cynnal Brecwast Busnes Cymru Greadigol 2015. Byddwn yn croesawu gweithwyr proffesiynol o’r Diwydiant Creadigol yng Nghymru i rwydweithio, rhannu arferion gorau ac ymuno yn y sgwrs gyda phrif siaradwr a phanel o arbenigwyr, gan edrych ar ddyfodol y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Amseroedd: 08:00 – 09:30 Cymru Greadigol – Brecwast Busnes 10:00 – 15:00 Cynhadledd Cymru Greadigol 2015 Mae’r ddau ddigwyddiad am ddim i’w mynychu ac mae croeso i westeion fynychu’r ddau ddigwyddiad os ydynt yn dymuno. gofrestru eich diddordeb mewn mynychu Cymru Greadigol 2015, anfonwch e-bost i events@cavc.ac.uk.

Hyperddolen: Jane Hutt AC

Agored i’r cyhoedd: Ydy, drwy drefniant ymlaen llaw

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr