Digwyddiad

DIGWYDDIAD : Brolio / The Pitch

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Chwefror 2015

Amser: 12.00 - 20.00

Lleoliad: 12:00 - 17:00 - Senedd, 17:30 - 20:00 - Pierhead

Disgrifiad: Nod Brolio/ThePitch yw rhoi i fyfyrwyr marchnata yng Nghymru brofiad brolio wrth farchnata go iawn. Caiff hyd at 12 tîm (â phob un ohonynt yn cynnwys tri myfyriwr) eu darparu â brîff drwy e-bost dair wythnos cyn y digwyddiad. Mae timau o golegau addysg bellach ac addysg uwch ac o ganolfannau astudio sydd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig ledled Cymru yn gymwys i ymuno. Nid yw aelodaeth o’r Sefydliad Marchnata Siartredig yn rhagofyniad ar gyfer cymryd rhan. Yn ystod y dydd, rhoddir i’r 12 tîm dair munud yn unig ac uchafswm o wyth sleid PowerPoint i lunio eu hymateb i’r brîff yn adeilad y Pierhead. Gwahoddir yr holl dimau i'r Senedd wedyn ar gyfer y nos lle bydd y beirniaid yn cyhoeddi eu rhestr fer o dri thîm y maent yn eu gwahodd i roi cyflwyniad unwaith yn rhagor o flaen cynulleidfa wâdd.

Agored i’r cyhoedd: Nid yw sesiwn y prynhawn yn agored i'r cyhoedd. Mae'r sesiwn gyda'r nos yn y Senedd yn agored i'r cyhoedd, ond rhaid cofrestru ymlaen llaw.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr