Digwyddiad

ARDDANGOSFA: “Emblemau Cymru. Cynrychioli Cymru a’i Phobl.”

Dyddiad: Dydd Mercher 8 Hydref 2014 i ddydd Gwener 7 Tachwedd 2014

Lleoliad: Pierhead Futures Gallery

Disgrifiad: “Emblemau Cymru. Cynrychioli Cymru a’i Phobl.” Saith cerflun mawr ceramig crog gan Margaret Berry, yn cynnwys draig deg troedfedd sy’n hedfan. Taliesin (tua 500-542) yn cynrychioli awen farddol. Mae’r bardd ar ei draed ac yn cyfansoddi cerdd yng nghwmni pysgodyn, ysgyfarnog ac aderyn; Hywel Dda (880-950) yn cynrychioli rheolaeth, yn cerdded ar draws rhaff dynn; Llywelyn ap Gruffydd/Ein Llyw Olaf (1223-1282) yn cynrychioli annibyniaeth, yn plymio o’r awyr; Owain Glyndwr (tua1354-1416) yn cynrychioli perchenogaeth tir, yn ei arfwisg yn penlinio ac yn ystyried tirwedd siroedd Cymru; Robert Owen (1771-1858) yn cynrychioli egwyddorion cymdeithasol, yn eistedd a’i goesau ymhlyg mewn dwys ymddiddan; Bryn Terfel (g1965) yn cynrychioli llais, yn ymestyn ei adenydd wrth hedfan.Yn ogystal a hyn bydd draig deg troedfedd sy’n hedfan yn goch ar yr ochr fewn sy’n cynrychioli ei hysbryd, gan gymryd bod cymeriad yn bwysicach nag ymddangosiad allanol. Yn ogystal: Ceir dreigiau bach coch ar hyd ei chefn; Ceir symbolau tafodau ar hyd ei chefn islaw’r dreigiau bach. Mae’r rhain yn symbol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg; Mae’r adenydd yn lliwiau baner Cymru: coch, gwyn a gwyrdd, unwaith eto’n mabwysiadu patrwm y tafod; Mae “Draig” wedi ei arysgrifennu ar gefn pen y ddraig.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr