Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lansiad Cyfarfyddiadau Ynni
Dyddiad: Dydd Mercher 1 Hydref 2014
Amser: 13.00 - 14.00
Lleoliad: Neuadd
Disgrifiad: Mae ‘Dod ar Draws Ynni’ yn cyflwyno gwaith ymchwil o 5 prosiect, a ariannwyd yn 2010 drwy Raglen Ynni a Chymunedau Cynghorau Ymchwil y DU sy’n ymchwilio i sut mae pobl yn defnyddio ynni mewn bywyd bob dydd. Bydd ffilimiau, arddangosfeydd ac arddangosiadau rhyngweithiol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddod ar draws ynni mewn ffyrdd anarferol ac yng nghyd-destun cyfarwydd ac anghyfarwydd. Trefnwyd yr arddangosfa gan brosiect Bywgraffiadau Ynni o Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â phrosiectau Ynni a Chyd-ddylunio Cymunedau o Goleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Mae Bywgraffiadau Ynni wedi ymchwilio i ddefnydd o ynni mewn cymuned bach ei heffaith yn y gorllewin, ac mewn dwy gymuned yn ardal Caerdydd yn ogystal â safle achos yng ngogledd Llundain.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr