Agenda item
Diweddariad corfforaethol ar Raglen Diwygio'r Senedd a'r Rhaglen Ffyrdd o Weithio
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd, Dydd Llun, 12 Mehefin 2023 10.00 (Item 8.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 8.
Cofnodion:
Rhaglen Diwygio’r
Senedd - diweddariad llafar
8.2 Amlinellodd Siwan y gwaith parhaus, neu
gynlluniedig a ganlyn yn ei diweddariad:
· trafodaethau
ynghylch yr amcangyfrifon cost a oedd wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w
cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol;
· y
cynllunio sydd ar waith ar gyfer adolygiad gweithdrefnol a chraffu
deddfwriaethol yn yr hydref, ac ymgysylltu â diwygio etholiadol ehangach;
· trafodaethau
ynghylch gwaith adnoddau a chynllunio’r gweithlu, ar y cyd â’r rhaglen Ffyrdd o
Weithio;
· adolygiad
o risg gorfforaethol Diwygio’r Senedd a chofrestr risg Rhaglen Diwygio’r
Senedd;
· datblygu
cynllun cyfathrebu i ategu’r cyfathrebiadau mewnol a ddarperir eisoes drwy
flogiau ac yng nghyfarfodydd yr holl staff;
· datblygu
cynlluniau cyfathrebu allanol ar y cyd â Llywodraeth Cymru i’w cyflwyno i’r
Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd;
· trafodaethau
am gyd-ddibyniaeth â’r rhaglen Ffyrdd o Weithio, megis gwaith i ailgynllunio’r
Siambr, a symleiddio’r dull adrodd i’r Cyd-fwrdd Sicrwydd, er enghraifft:
· trafodaethau
ynghylch adnoddau i gefnogi rhaglen waith y Bwrdd Taliadau, sydd wedi’i
diweddaru, a defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o ymgynghori ag Aelodau a grwpiau
plaid ar ddulliau gwaith a ffefrir; ac
· ymateb
i graffu ar gynigion ar gyfer newid, gan gynnwys y costau cysylltiedig.
8.3 Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, ymhelaethodd Siwan ar bwyntiau sy’n ymwneud
â chyfathrebu a deialog barhaus gyda staff ac Aelodau, a pherthnasau a
chydweithio â’r Bwrdd Taliadau. Eglurodd hefyd fod costau diwygio’r Senedd yn
cynnwys addasu cyfleusterau yn Nhŷ Hywel ac adeilad y Senedd, ond nad oedd
yn cynnwys llety Prosiect Bae Ffyrdd o Weithio 2032 yn y dyfodol.
Rhaglen Ffyrdd o
Weithio
ARAC (23-03) Papur 6 –
diweddariad Bae Ffyrdd o Weithio 2032.docx
ARAC (23-03) Papur 6
Atodiad A - Papur y Comisiwn (e)P2 Prosiect WoW Bay 2032
ARAC (23-03) Papur 6
Atodiad A - Papur y Comisiwn (e)P2 Atodiad 1 Prosiect Bae WoW.
8.4 Cyn y drafodaeth
sylweddol ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio a gynlluniwyd ym mis Gorffennaf,
rhoddodd Ed Williams grynodeb o’r opsiynau i fynd i’r afael ag anghenion llety
yn y dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn y papurau, gan ddweud bod y rhain wedi’u
hysgogi gan ddiwedd y brydles ar Dŷ Hywel yn hytrach na chynlluniau ar
gyfer Diwygio’r Senedd.
8.5 Roedd consensws
wedi bod mewn cyfarfod diweddar o’r Comisiwn y dylid archwilio’r opsiynau a
argymhellir. Roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu Achos Amlinellol Strategol a
byddai trafodaethau’n parhau â deiliad prydles Tŷ Hywel.
8.6 Mewn ymateb i
gwestiynau sy’n ymwneud ag effaith Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ar y cynigion,
eglurodd Ed sut, er nad oedd y Ddeddf yn gymwys i’r Senedd, y byddai hyn yn
cael ei ystyried drwy lif gwaith y dyfodol a oedd yn ymgorffori cynaliadwyedd
ac amrywiaeth. Cadarnhaodd fod opsiynau carbon niwtral a bod yr holl opsiynau
yn unol â chytundeb y Comisiwn i gadw at ei egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Cytunodd hefyd i rannu manteision a risgiau pob opsiwn â’r Pwyllgor a
thystiolaeth o sut y profwyd y rhagdybiaethau.
8.7 Dywedodd Ed fod
adleoli swyddfa Gogledd Cymru i Sarn Mynach ar y trywydd iawn i fod yn gwbl
weithredol ar 3 Gorffennaf.
Pwysleisiodd y
Pwyllgor bwysigrwydd adolygu’r gwersi a ddysgwyd yn sgil adeiladu’r Senedd a
nododd risgiau’r ddadl ynghylch cynlluniau ar gyfer llety yn y dyfodol, yn
enwedig o ran cost, gan goddiweddyd y ddadl ynghylch Diwygio’r Senedd. Byddai’n
arbennig o bwysig ymgymryd â diwydrwydd dyladwy ar ariannu’r opsiynau i sicrhau
bod gan y partïon perthnasol yr adnoddau i gyflawni prosiect mor fawr â hyn.
Camau gweithredu
· Ed
Williams i gyflwyno’r manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â phrosiect Bae
2032
· Ed
Williams i roi esboniad o sut y profwyd y rhagdybiaethau ynghylch prosiect Bae
2032.