Agenda item

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

FIN(4) 15-12 – Papur 4 – Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Andrew Jeffreys, Pennaeth Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

·         Cyllidebau sydd wedi’u diogelu yn y cynigion a rhagor o wybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ystyried gwariant ataliol i leihau’r gofynion ar wasanaethau cyhoeddus.

·         Rhagor o wybodaeth sy’n rhoi’r rhestr lawn o brosiectau sydd wedi’u cyllido drwy’r cynllun buddsoddi i arbed.

Dogfennau ategol: