Agenda item

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ynghylch ei alwad am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip ynghylch datblygu strategaeth ddiwylliannol i Gymru, gan ofyn yn benodol pa rôl, os o gwbl, a fydd gan y Pwyllgor yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth.