Agenda item

Eitem i'w thrafod a gwneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad (13.00 - 15.15)

·         Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: Dull gweithredu ac ymgynghori – Papur 6

·         Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: Gwariant ar Lety Preswyl (Pennod 4) – Papur 7

·         Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: Taliadau i Aelodau, cymorth staffio i Aelodau a chymorth i bleidiau gwleidyddol – Papur 8

·         Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: Y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr (Pennod 6) – Papur 9

·         Diwygiadau amrywiol i'r Penderfyniad – Papur 10

 

Cofnodion:

Papur 6 – Y dull gweithredu ac ymgynghori;

Papur 7 – Gwariant ar lety preswyl;

Papur 8 – Cyflogau Aelodau, cymorth staffio a chefnogaeth i bleidiau gwleidyddol;

Papur 9 – Cronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr;

Papur 10 – Diwygiadau amrywiol i'r Penderfyniad;

1.1        Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2022-23).

1.2        Mewn perthynas â'r Gwariant ar Lety Preswyl cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y cynigion a ganlyn:

-      Ar gyfer Aelodau yr “ardal allanol”, cynnydd yn y lwfans yn unol â chyfradd CPI mis Medi 2021 (sef 3.1 y cant);

-      Ar gyfer y “lwfans gofalwr”, cynnydd yn y lwfans yn unol â chyfradd CPI mis Medi 2021 (sef 3.1 y cant);

-      Ar gyfer y lwfans “atgyweiriadau hanfodol”, i'w gadw ar y lefel ar gyfer 2021-2022;

-      Ar gyfer Aelodau yr “ardal ganolradd”, cynnydd yn y lwfans yn unol â chyfradd CPI mis Medi 2021 (sef 3.1 y cant);

-      Cynnydd o 3.1 y cant i’r uchafswm fesul noson y gellir ei hawlio am lety mewn gwesty, yn unol â chyfradd CPI mis Medi 2021.

1.3        O ran cyflogau Aelodau, nododd y Bwrdd ffigur yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) diweddaraf ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Hydref 2021, sef 0.4 y cant. Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn arwain at gymhwyso cynnydd o 0.4 y cant o ran cyflogau’r Aelodau a deiliaid swyddi ar gyfer 2022-23, yn unol â'r mecanwaith mynegeio blynyddol a amlinellir yn adran 3.2 o'r Penderfyniad.

1.4        O ran cyflog y staff cymorth, cytunodd y Bwrdd fod yr angen i gynnal dull cyson o bennu lwfansau, ynghyd â'r ansefydlogrwydd yn y mynegeion perthnasol sy'n bodoli, yn gwneud y defnydd parhaus o'r mecanwaith mynegeio blynyddol (gan gynnwys ei ddarpariaeth ar gyfer isafswm ac uchafswm yr addasiad) yn briodol. Ar sail hynny, nododd y Bwrdd y bydd cynnydd o 0.4 y cant (ASHE) yn gymwys i gyflogau staff cymorth ar gyfer 2022-23, yn unol â'r mecanwaith mynegeio blynyddol a amlinellir yn adran 7.3 ac adran 8.4 o'r Penderfyniad.

1.5        O ran y Lwfans Cymorth ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol, cytunodd y Bwrdd y dylai ymgynghori gan ddefnyddio’r un fethodoleg ag a ddefnyddiwyd yn 2021-22 ar gyfer cynyddu cyfanswm gwerth y lwfans, fel bod: y gyfran o’r cyfanswm sy’n cael ei wario ar gyflogau (86.3* y cant o gyfanswm y lwfans) yn cael ei gynyddu gan y mynegai ASHE sef 0.4 y cant; ac y caiff gweddill y lwfans (13.7* y cant) ei addasu yn ôl y gyfradd CPI ym mis Medi 2021 sef 3.1 y cant, sy'n arwain at gynnydd o 0.77* y cant yng nghyfanswm gwerth y Lwfans ar gyfer 2022-23.

[*Cafodd y ffigurau a ddefnyddiwyd yn y papurau a ystyriwyd gan y Bwrdd eu cywiro mewn gohebiaeth ysgrifenedig gan y Clerc ar 17 Rhagfyr 2021 a chytunwyd arnynt gan y Bwrdd drwy e-bost]

 

1.6        Wrth adolygu’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar gynnig i uwchraddio’r Gronfa yn unol â chyfradd CPI mis Medi 2021 (sef 3.1 y cant). Cytunodd y Bwrdd ymhellach i ailedrych ar hyn cyn i'r Penderfyniad ar gyfer 2022-23 gael ei gwblhau a’i gyhoeddi, er mwyn rhoi ystyriaeth i’r gwaith ymchwil allanol y mae’n bwriadu ei gomisiynu, sy'n ymwneud ag amodau'r farchnad ar gyfer swyddfeydd yng Nghymru, ac ystyried a oes angen gwneud addasiadau pellach mewn ymateb i gostau cyfleustodau ac ynni.

1.7        Fel rhan o'r broses ymgynghori, cytunodd y Bwrdd hefyd i geisio barn ar y posibilrwydd o ran symud y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr a pha effaith y gallai hyn ei chael ar Aelodau. Cytunodd y Bwrdd i roi rhagor o ystyriaeth i'r mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol ac yng ngoleuni'r ymatebion a ddeuai i law.

1.8        Cytunodd y Bwrdd, at ddiben tryloywder, y byddai’n cyhoeddi cynlluniau mewn perthynas â’r ddau fater a ganlyn yn ei ddogfen ymgynghori at ddiben y cofnod cyhoeddus, ond nad oedd cynnal ymgynghoriad yn briodol:

-      ar gyfer teithio partner a phlant, i ddileu’r gofyniad yn nhrydydd pwynt bwled paragraff 5.18.3 o’r Penderfyniad i Aelod enwebu’n ysgrifenedig berson sy’n byw gydag ef fel ei briod neu bartner sifil, er mwyn osgoi unrhyw bryder yn ymwneud â gwahaniaethu yn y cyd-destun hwn yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos Brewster;

-      ar gyfer gwallau typograffig a phwyntiau eglurhad ieithyddol sydd wedi’u nodi ond nad ydynt yn effeithio ar y cyd-destun, ar ystyr neu ar y dehongliad o’r Penderfyniad (e.e. croesgyfeiriadau anghywir), y byddai’n cywiro’r gwallau hyn yn y Penderfyniad diwygiedig ar gyfer 2022-23 ac yn cyhoeddi rhestr o’r newidiadau hyn.

1.9        Bu’r Bwrdd yn ystyried nifer o ddarnau o ohebiaeth ychwanegol gan bleidiau gwleidyddol a Chomisiwn y Senedd yn ymwneud â nifer o faterion. Ystyriodd y Bwrdd y materion hyn fel rhan o’i gynigion ymgynghori o ran yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad lle bo’n berthnasol, a chytunodd i roi rhagor o ystyriaeth i rai materion yn ei gyfarfod nesaf (fis Ionawr 2022). Cytunodd y Bwrdd i ymateb yn ysgrifenedig i bob llythyr.

1.10     Nododd y Bwrdd ohebiaeth yn ymwneud â’r Cytundeb Cydweithio arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru a chytunwyd i ystyried unrhyw effaith mewn cysylltiad â meysydd o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn ôl yr angen. 

1.11     Cytunodd y Bwrdd ar ei ddull o ymgynghori, ac i ganiatáu'r cyfnod ymgynghori arferol, sef chwech wythnos.