Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfnod pontio i'r Chweched Senedd

Cofnodion:

ARAC (05-21) Papur 9 - Y cyfnod pontio i'r Chweched Senedd

12.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Sulafa Thomas i gyflwyno'r eitem hon. Atgoffodd y Pwyllgor ei fod, yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, wedi cynnal archwiliad manwl o’r cyfnod pontio i’r Chweched Senedd, a’i fod wedi gofyn am ddiweddariad arall yn y cyfarfod hwn. Cyflwynodd y papur fanylion am y dull hyblyg a fabwysiadwyd ar gyfer y cyfnod pontio ac roedd yn cynnwys manylion am y gwersi a ddysgwyd a rheoli risg.

12.2    Llongyfarchodd y Pwyllgor swyddogion ar sicrhau canlyniad mor llwyddiannus, yn enwedig o gofio’r heriau cymhleth ychwanegol a achosir gan y pandemig a’r angen i ymateb i reoliadau newidiol Covid-19 a darparu gweithgarwch pontio mewn ffyrdd gwahanol. Roedd y ddogfennaeth ansawdd uchel am y gwersi a ddysgwyd yn y papur gyda’r wybodaeth ddiweddaraf hefyd wedi creu argraff dda ar aelodau'r Pwyllgor.   

12.3    Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch effaith Covid-19 ar drafodaethau mewn perthynas â’r defnydd o le swyddfa, dywedodd Sulafa fod papur wedi’i gyflwyno i’r Comisiwn yn amlinellu posibiliadau gweithio ystwyth yn y dyfodol a oedd yn cynnwys patrymau gwaith hybrid a hyblyg. Cytunodd y Cadeirydd i godi’r cwestiynau am y strategaeth llety yn y dyfodol dan eitem 18.

12.4    Yna, symudodd y drafodaeth ymlaen i lwyddiant Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd a nododd y Cadeirydd y bu’n drefnus. Soniodd Sulafa fod Arwyn Jones a'i dîm wedi cynllunio i ddarparu digwyddiadau rhithwir yn bennaf, ond bod mwy o weithgareddau yn y cnawd yn bosibl yn dilyn newidiadau i'r rheoliadau. Hefyd, amlinellodd yr heriau o ran cynllunio gweithgareddau ar adeg pan oedd rheoliadau Covid-19 yn newid a bod penderfyniadau’n seiliedig ar asesiad trwyadl o’r risgiau. Roedd hyn wedi bod yn ddwys o ran adnoddau, ond yn werth chweil i gydbwyso'r awydd i ddarparu digwyddiad symbolaidd pwysig, a phrofiad cadarnhaol i bawb dan sylw wrth gadw pawb yn ddiogel. Roedd wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a gafodd ei groesawu ac roedd Arwyn yn falch o adrodd bod sicrwydd allanol ar y prosesau mewnol wedi cadarnhau bod y mesurau lliniaru a roddwyd ar waith yn effeithiol.

12.5    Roedd Ken Skates am gofnodi ei ddiolch am yr holl drefniadau a oedd wedi arwain at ddiwrnod gwych a nododd y profiad cadarnhaol i'r Aelodau a oedd wedi bod yn falch o lwyddiant y digwyddiad. 

12.6    Llongyfarchodd Aled Eirug y tîm hefyd. Hefyd, gofynnodd i swyddogion am eu barn am yr argymhellion o'r adroddiad a luniwyd gan yr Athro Diana Stirbu ynghylch Pŵer, Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau’r Senedd a rannwyd ag aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd Siwan fod yr argymhellion wedi'u cymeradwyo a bod gwaith ar droed ar y cyd â Fforwm y Cadeiryddion i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ystod tymor y Senedd hon. Cynigiodd Siwan rannu ag aelodau'r Pwyllgor bapur briffio arall a luniwyd i lywio hyn. Byddai hefyd yn ceisio rhannu canlyniad y defnydd arloesol hwn o waith ymchwil academaidd â deddfwrfeydd eraill.

Camau gweithredu

·       Rhannu papur briffio arall mewn perthynas ag adroddiad yr Athro Diana Stirbu ynghylch Pwer, Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau'r Senedd.