Agenda item

Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd neu sy'n dod i'r amlwg - pontio i'r Chweched Senedd

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

9.1         Gwahoddodd y Cadeirydd Siwan i gyflwyno'r eitem hon, a chroesawodd Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth y Comisiwn a’r Aelodau i'r cyfarfod. Atgoffodd Siwan y Pwyllgor fod y risg wedi'i hychwanegu at y Gofrestr Risg Gorfforaethol i adlewyrchu effaith bosibl pandemig y Coronafeirws a'r ansicrwydd ynghylch dyddiad yr etholiad, cyfnod y diddymiad a phontio i’r Chweched Senedd. Dywedodd y byddai'r risg bellach yn cael ei chau gyda risgiau gweddilliol o ran darparu a phontio parhaus yn cael eu rheoli ar lefel gwasanaeth.

9.2         Disgrifiodd Siwan sut roedd ymgysylltu effeithiol â chyrff a oedd yn cynnwys y Comisiwn, y Pwyllgor Busnes a'r Bwrdd Taliadau wedi llywio'r gwaith o gynllunio senarios a phenderfyniadau a chanllawiau ynghylch cyfnod yr etholiad a'r diddymiad. Anfonwyd canllawiau wedi'u diweddaru at yr Aelodau a'r staff mewn modd cydgysylltiedig ac amserol.

9.3         Amlinellodd Siwan sut yr oedd y gwahanol elfennau o waith wedi'u cyflawni. Roedd hyn yn amrywio o gynllunio ar gyfer diddymu; cyfathrebu ynghylch yr etholiad, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed a oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf; darparu canllawiau i Aelodau nad oeddynt yn dychwelyd a gwybodaeth gynefino ar gyfer Aelodau newydd ac Aelodau a oedd yn dychwelyd; a chefnogi busnes cynnar y Senedd. O ran llywodraethu, ychwanegodd Siwan fod cynllunio cynnar, sefydlu gweithgorau a chynllunio senarios a chydgysylltydd penodol ar gyfer y prosiect wedi bod yn ffactorau allweddol ar gyfer cyflawni'n llwyddiannus. Ychwanegodd fod strwythurau llywodraethu presennol wedi'u defnyddio i gynnal asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau fel tyngu’r llw, a oedd wedi'u cynnal yn bersonol ac yn rhithiol yn unol â dewisiadau'r Aelodau.

9.4         Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y pandemig, roedd y trefniadau i gefnogi busnes cynnar yn llwyddiannus. Roedd hyn yn cynnwys Cyfarfod Llawn ar 12 Mai i benodi Llywydd, Dirprwy Lywydd ac enwebu'r Prif Weinidog, yn ogystal â chymorth i Aelodau gyflogi staff a chael trefn ar swyddfeydd. Roedd 100 y cant hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cynefino Aelodau. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth gan Aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd rhai gwelliannau wedi'u gwneud ar unwaith mewn ymateb i faterion a nodwyd.

9.5         Roedd y gwaith o bontio i'r Chweched Senedd yn parhau o ran penodi deiliaid swyddi, ffurfio Pwyllgorau newydd y Senedd a chynlluniau ar gyfer yr agoriad Brenhinol. Cynigiodd Siwan rannu adroddiadau cau, a fyddai'n cynnwys manylion y gwersi a ddysgwyd, gyda'r Pwyllgor maes o law. Byddai'r rhain yn ystyried adolygiad arfaethedig gan y Comisiwn Etholiadol.

9.6         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am gynllunio ar gyfer adalw'r Senedd a'i Phwyllgorau yn ystod cyfnod yr etholiad, amlinellodd Siwan sut yr oedd swyddogion wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru i sefydlu meini prawf clir ar gyfer y sefyllfa hon. Roedd yn amlwg mai'r unig amgylchiadau lle byddai hyn yn angenrheidiol fyddai ar gyfer materion yn ymwneud â Covid ac unrhyw oedi i ddyddiad yr etholiad. Rhoddwyd eglurder hefyd ynghylch rheolau o ran defnyddio staff ac adnoddau mewn amgylchiadau o'r fath. Esboniodd Siwan fod rhai swyddogion wedi bod wrth gefn dros gyfnod yr etholiad pe bai wedi bod angen adalw’r Senedd.

9.7         Cafodd y swyddogion eu llongyfarch gan y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor ar eu llwyddiant, yn enwedig o dan amgylchiadau heriol. Pan ofynnwyd a ellid bod wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol, awgrymodd Siwan y gallai’r gwaith cynllunio fod wedi dechrau'n gynharach efallai o ran rhai materion technegol megis archifo deunydd y Pwyllgorau. Cydnabu hefyd fod cyfathrebu cynnar ac aml ag Aelodau a'u staff, yn enwedig o ran canllawiau diddymu, yn hollbwysig pan oedd newidiadau'n digwydd mor gyflym. Mewn ymateb i gwestiynau am gasglu adborth, ychwanegodd fod Manon wedi cwrdd ag Aelodau a oedd yn ymadael a byddai hynny’n cael ei ddefnyddio i lywio'r gwersi a ddysgwyd.

9.8         Rhoddodd Arwyn fanylion ymchwil a gomisiynwyd gan asiantaeth farchnata allanol adroddodd fod targedau ar gyrhaeddiad y cyfryngau o ran yr etholiad wedi rhagori ar dargedau. Esboniodd hefyd fod swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar astudiaeth o Etholiadau Cymru i sicrhau ymchwil briodol i farn pleidleiswyr, megis rhesymau dros bleidleisio, gan gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed. Nododd hefyd effaith y cyfyngiadau Covid-19 ar gynlluniau i annog pobl ifanc i bleidleisio. Amlinellodd sut y byddai'r ymchwil yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth a chynigiodd rannu adroddiadau gyda'r Pwyllgor. Rhoddodd Aled wybod i'r Pwyllgor am astudiaeth sydd hefyd yn cael ei chynnal gan Ofcom o ran sylw ar y newyddion rhwydwaith yn ystod y pandemig a fyddai o ddiddordeb i Gomisiwn y Senedd. 

9.9         Mewn ymateb i gwestiwn gan Ann ynghylch cymariaethau ag etholiadau yn yr Alban, dywedodd Arwyn, er bod gwahaniaethau yn y pwysoliad o ran pleidleiswyr ifanc, y dylai rhai cymariaethau fod yn bosibl unwaith y byddai holiaduron cyn ac ar ôl yr etholiad wedi'u dadansoddi.

9.10       Gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad llafar ar y pontio i'r Chweched Senedd yng nghyfarfod yr hydref.

Cam i’w gymryd: Y tîm clercio i ychwanegu eitem agenda ar y gwersi a ddysgwyd o'r pontio i'r Chweched Senedd ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yr hydref.