Agenda item

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1         . Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2         Derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 4 Mawrth yn amodol ar ddiwygio'r disgrifiad categori o aelodau'r Bwrdd yn y grid presenoldeb; a chywiro gwall gramadegol ym mharagraff 2.4.

1.3         Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Ronnie Alexander wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad fel aelod o’r Bwrdd ar ôl pedair blynedd, a hynny er mwyn ymgymryd â phenodiad arall. Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau i Ronnie am ei waith rhagorol ar y Bwrdd, gan ddweud y bydd colled ar ei ôl. Adleisiodd aelodau eraill y Bwrdd y teimladau hyn. Roeddent hefyd am gofnodi eu hedmygedd o'i fanylder at ei waith a'u gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i gyd-aelodau'r Bwrdd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchodd Ronnie i'r Bwrdd am eu geiriau caredig ac ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafwyd gan swyddogion y Comisiwn ac aelodau eraill o'r Bwrdd dros y pedair blynedd diwethaf. Dymunodd yn dda i'r Bwrdd at y dyfodol.

1.4         Fe wnaeth yr ysgrifenyddiaeth roi diweddariad ar y broses ar gyfer llenwi'r swydd wag yn sgil ymddiswyddiad Ronnie. Nododd y Bwrdd mai’r Clerc a'r Prif Weithredwr sy’n penodi aelod o'r Bwrdd ac y bydd angen iGomisiwn y Senedd gymeradwyo’r penodiad.

1.5         Trafododd y Bwrdd ddiweddariad ynghylch y gefnogaeth sy’n cael ei darparu i'r Aelodau o ran Covid-19. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn rhy gynnar yn nhymor y Senedd newydd i werthuso'r darpariaethau sydd ar waith ar hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r darpariaethau hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol, ond byddant yn parhau ar yr un ffurf yn y cyfamser.

1.6         Trafododd y Bwrdd ei ddull o ymgysylltu â’r Aelodau a staff cymorth a chytunodd i edrych ar adfer sesiynau galw heibio gyda'r Aelodau; parhau â chyfarfodydd grŵp cynrychiolwyr; a threfnu rhaglen o gyfarfodydd rheolaidd â swyddfeydd yr Aelodau, boed hynny’n rhithwir neu wyneb yn wyneb. Cydnabu'r Bwrdd fanteision cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn enwedig gyda staff y tu allan i Gaerdydd.

1.7         Trafododd y Bwrdd rai trefniadau gweinyddu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd a chytunodd, er mwyn gwneud ei waith yn fwy tryloyw i randdeiliaid, i gyhoeddi blaenraglen waith ar ei wefan. Caiff y flaenraglen hon ei diweddaru'n rheolaidd i gyd-fynd â chylch cyfarfodydd y Bwrdd.

1.8         Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar wefan newydd Umbraco a chytunodd i adolygu proflenni terfynol, gyda’r bwriad y bydd y wefan newydd yn mynd yn fyw cyn gynted â phosibl.

1.9         Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau diogelwch ar gyfer Aelodau ar ddechrau'r Chweched Senedd. Cytunodd i ailedrych ar hyn gyda thîm diogelwch y Senedd ymhen chwe mis. Bydd hyn yn rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad.

1.10       Cytunodd y Bwrdd ar ei flaenraglen waith hyd at fis Ionawr 2022.

 

Camau i’w cymryd: Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-       Diwygio a threfnu i gyhoeddi cofnodion mis Mawrth;

-       Rhoi diweddariad i'r Bwrdd ar recriwtio aelod newydd o'r Bwrdd;

-       Rhoi gwybodaeth i'r Bwrdd adolygu'r darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau a’u swyddfeydd mewn perthynas â Covid-19;

-       Trefnu rhaglen o ymweliadau gyda'r Aelodau a'u swyddfeydd;

-       Trefnu sesiwn galw heibio gyda'r Aelodau;

-       Rhoi fersiynau terfynol i’r Bwrdd o’r wefan newydd a threfnu i’w chyhoeddi;

-       Cynnwys ystyriaeth bellach o ddyfeisiau diogelwch ar gyfer Aelodau a'r cynnydd a wnaed gan dîm diogelwch y Senedd fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad;

-       Rhoi blaenraglen waith sy’n wynebu’r cyhoedd i'r Bwrdd ar gyfer ei chyhoeddi.

-