Agenda item

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

·         Penderfyniadau ar ddarpariaeth TGCh ar gyfer y chweched Senedd – Cytunodd y Comisiynwyr ar gynigion ar gyfer darpariaeth TGCh i'r Aelodau, a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol ac a drafodwyd ymhellach yn y cyfamser. 

 

Cyfrifiaduron Personol

Penderfyniad 1: Dylai gliniadur bellach fod yn gynnig safonol - un i bob Aelod, ynghyd ag un yr un ar gyfer staff cymorth hyd at uchafswm o 6.  Gellir prynu peiriannau ychwanegol gan ddefnyddio arian Costau Swyddfa (byddai hyn yn cynnwys y gallu i ddefnyddio peiriannau presennol sy'n parhau o fewn y disgwyliad oes â chymorth, ar gyfer Aelodau sy'n dychwelyd).   

Penderfyniad 2: Mae gan yr Aelodau opsiwn i gyfnewid un gliniadur am gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Penderfyniad 3: Holl staff swyddfeydd grwpiau i gael gliniadur.

Penderfyniad 4: Gall Aelodau gyfnewid eu gliniadur safonol am Microsoft Surface Pro, ond oherwydd cost uwch y ddyfais hon, byddent yn ildio'r ddyfais llechen (iPad) o'u dyraniad.   

Monitorau cyfrifiaduron a gorsafoedd docio

Penderfyniad 5: Darperir monitor bwrdd gwaith a gorsaf ddocio (+ bysellfwrdd a llygoden) gyda phob gliniadur ym mhrif fan gwaith yr unigolyn.

Penderfyniad 6: Dyrennir un monitor a gorsaf ddocio arall i Aelodau mewn ail leoliad (e.e. gartref).    

Dyfeisiau Apple

Penderfyniad 7: Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Aelodau, neu eu staff cymorth, sy'n fwy cyfarwydd â system weithredu Apple na Windows, ddewis un ddyfais Apple yn hytrach na dyfais Windows (un i bob Aelod gan gynnwys eu staff). Mae cymwysiadau’r Senedd a’r hyfforddiant sydd ar gael wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer Windows.

Meddalwedd

Penderfyniad 8: Dyrennir trwydded Office 365 bersonol i Aelodau, ynghyd â thrwydded ar gyfer y blwch post a rennir ganddynt ("Swyddfa..."). Yn ogystal â hyn, dyrennir hyd at chwe thrwydded arall iddynt ar gyfer pob un o'u staff cymorth. 

Penderfyniad 9: Adobe Creative Cloud, os oes angen, i bob Aelod (wedi'i ddyrannu i aelod o staff cymorth).

Argraffwyr

Penderfyniad 10: Dyrennir dwy Ddyfais argraffu Amlddefnydd (argraffu, sganio a llungopïo) ac un argraffydd laser unlliw i Aelodau.

Dyfeisiau llechen

Penderfyniad 11: Dyrennir un iPad Apple i Aelodau (oni bai bod yr Aelod wedi dewis dyfais Microsoft Surface).

Ffonau symudol

Penderfyniad 12: Dyrennir ffôn symudol addas (Apple neu Android) i bob Aelod ynghyd â chontract galwadau misol a fydd yn darparu ar gyfer galwadau a negeseuon testun diderfyn yn y DU ac 16GB o ddata symudol y mis.  

Band eang

Penderfyniad 13: Bod cysylltiad rhwydwaith addas yn cael ei ddarparu ar gyfer Swyddfa/swyddfeydd Etholaethol yr Aelod (uchafswm o 2).

Penderfyniad 14: Ni ddarperir band eang i brif breswylfa Aelodau (ac eithrio mewn achosion eithriadol). Bydd gan yr Aelodau sy'n dychwelyd ac sydd â band eang y Senedd gartref ar hyn o bryd ddeufis yn dilyn yr etholiad i wneud trefniadau newydd. 

 

Caiff pob eithriad ei asesu fesul achos. Gall yr amgylchiadau penodol sy'n cyfiawnhau darparu band eang ym mhrif breswylfa'r Aelod gynnwys:

·         Nid yw band eang confensiynol ar gael yn y lleoliad, sy'n golygu defnyddio technolegau gwahanol, mwy costus,

·         Mwy nag un aelod yn byw yn yr eiddo sy'n golygu bod angen mwy o gapasiti ar gyfer gweithio o bell, neu

·         Aelodau eraill o'r teulu yn methu defnyddio band eang y cartref pan fydd ei angen ar yr Aelod ar gyfer gwaith y Senedd, megis presenoldeb o bell yn y Cyfarfod Llawn.

 

·         Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid – Nododd y Comisiynwyr lythyr a dderbyniwyd yn argymell gwneud gwaith i addysgu, ymgysylltu a hysbysu'r cyhoedd yng Nghymru am ddatganoli cyllidol, a chytunwyd y dylid paratoi ymateb.

 

·         Llythyr gan grŵp Plaid Cymru at y Prif Weithredwr – Hysbyswyd y Comisiynwyr am ohebiaeth ynghylch cymorth i staff contract a oedd yn gysylltiedig â digwyddiad mis Rhagfyr ar yr ystâd a'r ddarpariaeth arlwyo.