Agenda item

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

3.1        Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith llywodraethu a sicrwydd diweddar, gan gynnwys ymgysylltiad helaeth â threfniadau cynllunio parhad busnes y Comisiwn mewn perthynas â'r pandemig Covid-19 diweddar. Tynnodd sylw at y meysydd cynnydd a ganlyn:

·         paratoi drafft cyntaf yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2019-20, a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn;

·         cwblhau'r adolygiad archwilio mewnol o seiberddiogelwch, a ddosbarthwyd y tu allan i’r Pwyllgor, ac a gofnododd raddfa sicrwydd cymedrol;

·         cwblhau'r archwiliad o lywodraethu prosiectau, a fyddai'n cael ei rannu â'r Pwyllgor yn fuan ac a oedd wedi cofnodi graddfa sicrwydd cymedrol hefyd;

·         gwaith ar adolygiad o gydymffurfiad â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a oedd wedi, yn sgil argyfwng Covid-19, gweithredu dull gwahanol i’r hyn a gynlluniwyd. Roedd hyn wedi cynnwys trafodaethau gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi lle’r oedd yn gallu cael sicrwydd a thystiolaeth dda o gydymffurfiaeth, gan gynnwys drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiwn a Chomisiynydd y Gymraeg. Byddai papur yn ymdrin â chanfyddiadau'r adolygiad yn cael ei rannu â'r Pwyllgor maes o law: ac

·         roedd Victoria Paris wedi cwblhau’r arholiadau Archwilio Mewnol Ardystiedig yn llwyddiannus.

3.2        Eglurodd Gareth, oherwydd yr anawsterau sy’n codi o ganlyniad i weithio o bell, y byddai'r archwiliad arfaethedig o’r Gwasanaeth Ymchwil yn wynebu oedi a bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi o ran ymarferoldeb cynnal yr archwiliad o dreuliau’r Aelodau ar gyfer 2019-20.

3.3        Holodd aelodau'r Pwyllgor am adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a chytunodd swyddogion i ddosbarthu hyn.

3.4        Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd aelodau'r Pwyllgor ei ddull pragmatig o flaenoriaethu gwaith, o ystyried yr amgylchiadau.

3.5        Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann am effaith gohirio'r archwiliad o dreuliau’r Aelodau ac a oedd datrysiadau technolegol ar waith i liniaru hyn, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor nad oedd hyn yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd y broses sy’n gysylltiedig. Dywedodd hefyd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng Archwilio Cymru a chydweithwyr yn y tîm Cymorth busnes i'r Aelodau i fod mewn sefyllfa i roi sicrwydd minimol ar gyfer 2019-20. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y byddai'r briff arfaethedig ar dreuliau’r Aelodau yn helpu i roi mwy o ddealltwriaeth i aelodau'r Pwyllgor o ran y prosesau sydd ar waith.

3.6        Mewn perthynas â chwestiynau am y defnydd o dechnoleg, gofynnodd Aled am eglurhad ar y sail resymegol dros y defnydd amlwg o feddalwedd fideogynadledda Zoom yn lle technolegau eraill sydd ar gael ar y farchnad. Mewn ymateb, dywedodd Dave a Manon y dewiswyd Zoom gan ei fod yn gallu hwyluso'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer busnes swyddogol y Cynulliad. Roedd yn cynnwys nodweddion defnyddiol eraill hefyd, gan gynnwys y gallu i ddangos nifer uwch o gyfranogwyr ar y sgrin na llwyfannau eraill.

3.7        Wrth ymateb i geisiadau am ddiweddariad ar yr offer camera a gafodd ei ddwyn yn ystod 2018-19, esboniodd Gareth y byddai hyn yn cael ei drafod yn yr adolygiad arfaethedig o Asedau Sefydlog a fyddai'n canolbwyntio ar ddiogelu asedau ac yn cynnwys cyfraniad gan y Pennaeth Diogelwch. Byddai manylion yr adolygiad hwn yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor maes o law ond cytunodd Gareth i ddarparu manylion pellach am yr amgylchiadau yn ymwneud â'r mater hwn i aelodau'r Pwyllgor yn y cyfamser.

Camau gweithredu:

·         (3.3) Gareth i ddosbarthu adroddiad Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

·         (3.7) Gareth i rannu gwybodaeth am yr amgylchiadau yn ymwneud â’r offer camera a gafodd ei ddwyn