Agenda item

Cofnodion 20 Ionawr, camau i'w cymryd a materion yn codi

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020

ACARAC (02-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu 

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr.

2.2        Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i gynnal trafodaethau pellach â swyddogion er mwyn bwrw ymlaen â’r camau yn ymwneud â mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol yn y dyfodol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd, a sesiwn friffio gyda’r tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau ar fonitro treuliau Aelodau’r Cynulliad.

2.3        Ymatebodd Gareth i gwestiynau ar amserlenni ar gyfer gweithredu argymhellion yr archwiliad o seiberddiogelwch ac o ran cynnal yr archwiliad o ddiwylliant cydymffurfio. Esboniodd Gareth, oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan argyfwng y Coronafeirws (Covid-19), a'i ran wrth arwain ymateb y Comisiwn, y byddai rhywfaint o’r gwaith archwilio yn cael ei ddal yn ôl.

2.4        Gwahoddodd y Cadeirydd Arwyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynllun cyfathrebu ar gyfer y prosiect newid enw. Esboniodd Arwyn, gan fod y dyddiad ar gyfer y newid enw wedi ei osod mewn deddfwriaeth, nad oedd cyfle i’w newid. Fodd bynnag, oherwydd Covid-19, roedd y digwyddiadau lansio a gynlluniwyd wedi cael eu disodli gan ddull gweithredu allweddol mwy cynnil, gyda'r posibilrwydd o lansiad mwy cadarn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Eglurodd hefyd fod trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch y cyfleoedd a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, a byddai cofrestriadau ar gyfer hyn yn agor ar 1 Mehefin 2020 (ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021) i lansio ymhellach neu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y newid enw.

2.5        Cydnabu aelodau'r Pwyllgor y newid yn y dull o weithredu a thrafodwyd y potensial i godi ymwybyddiaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhai Aelodau'r Cynulliad, ynghyd â defnyddio grwpiau ffocws. Mewn ymateb, nododd Arwyn gynlluniau i gynyddu arbenigedd yn y Comisiwn o ran y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd y dylid cadw'r negeseuon mor syml â phosibl i helpu'r cyhoedd i ddeall rôl y Senedd fel deddfwrfa a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

2.6        Nododd y Pwyllgor y bu ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid allweddol ac y byddai datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd ar 6 Mai.

2.7        Diolchodd y Cadeirydd i Arwyn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf a gofynnodd iddo sicrhau bod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu am gynlluniau cyfathrebu. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at hyn yn y cyfarfod ym mis Mehefin.

Camau gweithredu

·         (2.2) y Cadeirydd a Dave i drafod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, ynghylch pryd y dylid trefnu cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol gyda Chynghorwyr Annibynnol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

·         (2.2) y Cadeirydd a Gareth i drafod y dull gorau o ddarparu'r briff i ACARAC ar waith y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau a monitro treuliau Aelodau'r Cynulliad

·         (2.3) Gareth i drafod â Suzy yr amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion o’r adolygiad o seiberddiogelwch  

·         (2.3) Gareth i gynghori ar amseru'r adolygiad o ddiwylliant cydymffurfiaeth

·         (2.7) Arwyn i rannu manylion y strategaeth gyfathrebu ddiwygiedig ar y newid enw gydag aelodau ACARAC – a rhoi adborth i ACARAC yn y cyfarfod ym mis Mehefin