Agenda item
Adroddiad Archwilio Mewnol
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd, Dydd Llun, 18 Mehefin 2018 10.30 (Item 5.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 5.
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 3 – Adroddiad diweddaru archwilio mewnol
Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2017-18
ACARAC (03-18) Papur 4 – Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol a Barn
2017-18
Eitem 5 – Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
ACARAC (03-18) Papur 5 – Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
Eitem 6 - Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
ACARAC (03-18) Papur 6 – Adroddiad Archwilio Lwfansau Aelodau’r Cynulliad
5.1
Cyflwynodd Gareth Watts
y pedair eitem hyn i'r Pwyllgor. Cafodd ei adroddiad diweddaru ei nodi ac
amlinellodd fod ei Adroddiad Blynyddol yn cynnig barn gyffredinol ar gyfer
2017-18 fod y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth yn ddigonol
ac yn effeithiol sy'n unol â disgrifiadau Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS).
5.2
Tynnodd Gareth sylw at
feysydd lle roedd ei waith wedi ychwanegu gwerth at y sefydliad, er enghraifft:
sefydlu meini prawf blaenoriaethu; adolygiad o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a
arweiniodd at newidiadau i'r strwythur llywodraethu; a'r Adolygiad Capasiti.
Ychwanegodd fod cydnabyddiaeth dda yn gyffredinol o rôl cynghori yr Archwiliad
Mewnol.
5.3
Hefyd, soniodd Gareth
wrth y Pwyllgor am archwilydd dan hyfforddiant yn y tîm Llywodraethiant a
Sicrwydd a ddylai fod yn gymwys erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd y Pwyllgor yn
croesawu hyn gan fod angen cymorth i Gareth ochr yn ochr â'r contract TIAA.
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch cymeradwy'r gwaith a gynhyrchwyd gan TIAA,
eglurodd Gareth, fel y rheolwr contract, ei fod yn sicrhau ansawdd yr holl
adroddiadau a gynhyrchir gan TIAA. Ychwangodd y byddai ef a Dave yn
cymeradwyo'r archwiliadau am feysydd o fewn ei gylch gwaith, fel rheoli risg a
llywodraethu gwybodaeth.
5.4
Roedd y Pwyllgor yn
canmol y ffaith bod y rheolwyr wedi cwblhau'r holl argymhellion, gan gynnwys yr
argymhellion yn ymwneud ag archwilio'r Rheolaethau Ariannol Allweddol, a gafodd
eu gweithredu cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.
5.5
Gwnaeth y Pwyllgor annog
Gareth i ganolbwyntio'n ychwanegol ar y Gyfarwyddiaeth Fusnes yn y dyfodol a
pharhau i sicrhau nad oedd ei raglen archwilio ac annibyniaeth yn cael eu
cyfaddawdu.
5.6
Rhoddodd Gareth a Dave
sicrwydd i'r Pwyllgor drwy ddisgrifio sut caiff annibyniaeth ei ddiogelu, fel
yr amlinellir yn niweddariad y Siarter Archwilio Mewnol a gyflwynwyd yn
flaenorol. Ychwanegodd Dave, yn ystod eu sesiynau dal i fyny wythnosol,
trafodwyd gwaith Gareth yn drylwyr i sicrhau nad oedd unrhyw wrthdaro
buddiannau a bod ei annibyniaeth wedi'i ddiogelu.
5.7
O ran yr Adroddiad
Blynyddol ar Dwyll, cadarnhaodd Gareth fod yr adroddiad yn cwmpasu contractwyr
trydydd parti a systemau cerdyn ar-lein. Yn ystod 2017-18, ni chafodd unrhyw
achosion o weithgareddau twyllodrus eu cyfeirio at sylw Gareth.
5.8
Yn dilyn gweithredu'r
system ar-lein cerdyn caffael, ac yn dilyn yr archwiliad Rheolaethau Ariannol
Allweddol, parhaodd Nia i sicrhau bod Penaethiaid Gwasanaeth yn cymeradwyo
pryniannau a wneir gan ddefnyddio'r cardiau i leihau unrhyw oedi.
5.9
Eitem olaf Gareth oedd
adroddiad archwilio Lwfansau Aelodau’r Cynulliad. Roedd ei sgôr sicrwydd yn
gymedrol, gyda phob un o'r pedwar argymhelliad yn cael eu derbyn. Roedd wedi'i
sicrhau bod y tîm Cymorth Busnes i Aelodau (MBS) yn dilyn y prosesau a'r
gweithdrefnau cywir, a bod y taliadau dyblyg (a wnaed gan gamgymeriad dynol)
wedi'u cywiro. Byddai'n gwneud rhywfaint o waith ychwanegol ar werth am arian
mewn perthynas â lwfansau Aelodau ym mis Awst.
5.10
Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Pwyllgor ynghylch y sampl a ddefnyddiwyd ar gyfer yr archwiliad hwn,
eglurodd Gareth fod y sampl wedi'i brofi'n sylweddol. Ychwanegodd fod y
fframwaith rheoli cyfan wedi'i werthuso a bod ei adolygiad wedi ystyried y
profion awtomataidd a phrofion eraill ar waith yn ogystal â gwybodaeth staff MBS.
5.11
Croesawodd y Pwyllgor
ddiweddariad Gareth a'r dulliau amddiffyn a roddwyd ar waith i ddiogelu ei
annibyniaeth.