Agenda item

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-18-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 3 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4A – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4B – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor (23 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4C – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (23 Mehefin 2017)

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Tracey Mayes - Pennaeth Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

 

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun.

3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru.

3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn:

·       Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu; 

·       Anfon y canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu ceisiadau grant;

·       Darparu manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac

·       Ymchwilio i bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd.

 

Dogfennau ategol: