<OpeningPara>Cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei
sefydlu gan y Senedd i drafod materion a nodir o dan Reol Sefydlog 22, yn
enwedig unrhyw gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau. Mae’r Pwyllgor
hefyd yn gyfrifol am adolygu’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, y
canllawiau ar y cod a’r gweithdrefnau cwyno, ynghyd â’r rheolau ar gyfer
lobïo.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad i lobïo
a grwpiau trawsbleidiol yn y Chweched Senedd. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben
ar 23 Mehefin 2022.</news><link>mgConsultationDisplay.aspx?ID=469</link>
<news>Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar
ddiwygiadau arfaethedig i’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn
Aelodau o’r Senedd. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 21 Chwefror
2022.</news><link>mgConsultationDisplay.aspx?ID=447</link>
<news>Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 gan
gynnig yn y Cyfarfod
Llawn.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12318&Ver=4</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>Lobïo</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39306</link>