Newyddion
<news> Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Craffu
ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021-22 a’r cynllun
pum mlynedd ar gyfer 2020-21 hyd at 2024-25’ ar 20 Tachwedd
2020</news><link>https://senedd.cymru/media/o54igxta/cr-ld13834-w.pdf</link>
<news> Cafodd cynigion i sefydlu Pwyllgor y Llywydd
a diwygio Rheolau Sefydlog ar Oruchwylio’r Comisiwn Etholiadol eu cytuno gan y
Senedd ar 23 Medi
2020</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=29609&Opt=0</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry> Craffu ar amcangyfrifon ariannol y
Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a gynllun pum mlynedd</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=29850</link>
Trawsgrifiadau
>>>>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd ar ôl 1
Tachwedd
2017<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=555</link>
<<<
Gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor
>>>>
>>>Adroddiadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=29431</link>
>>>Ymchwiliadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=29429</link>
>>>Deddfwriaeth<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=29430</link>
<<<
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor i graffu ar amcangyfrifon ariannol a
chynlluniau a gyflwynwyd gan y Comisiwn Etholiadol wrth gyflawni ei
swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng
Nghymru.
Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno
amcangyfrif o incwm a gwariant i’r Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a
refferenda datganoledig yng Nghymru heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn y
flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.
Mae adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau Cymru 2020 yn
nodi, yng Nghymru, y bydd gwaith craffu ar y Comisiwn Etholiadol yn cael ei
wneud gan un o bwyllgorau’r Senedd. Enw'r Pwyllgor hwn fydd Pwyllgor y Llywydd.
Yn ogystal ag amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r
Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi
ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau
sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y
cyfnod dilynol o bum mlynedd.
Ar ôl cwblhau ei waith craffu ar amcangyfrifon a
chynlluniau'r Comisiwn Etholiadol, rhaid i'r Pwyllgor osod yr amcangyfrifon a'r
cynlluniau hynny gerbron y Senedd, naill ai fel y'u cafwyd gan y Comisiwn
Etholiadol neu gydag addasiadau.