Cyflwyno Cynnig o Gydymdeimlad â'i Fawrhydi Y Brenin
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Cyflwyno Cynnig o Gydymdeimlad â'i Fawrhydi Y Brenin.
Gwybodaeth ynghylch Cyflwyno Cynnig o Gydymdeimlad â'i Fawrhydi Y Brenin
Bydd Ei Fawrhydi
Y Brenin Charles III a’r Frenhines Gydweddog yn ymweld â’r Senedd ddydd Gwener
16 Medi, lle byddant yn clywed cynnig o gydymdeimlad ac yn cwrdd ag Aelodau o’r
Senedd ac Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae’r ymweliad
hwn yn rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i nodi esgyniad Y Brenin
Charles i’r Orsedd. Bydd y parti Brenhinol hefyd yn mynd i wasanaeth gweddi a
myfyrdod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a derbyniad yng Nghastell Caerdydd.
Caiff ymweliad Y
Brenin â’r Senedd ei ddarlledu’n fyw ar y BBC a Senedd.tv