<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg a gan y Senedd i edrych ar bolisïau a deddfwriaeth, ac i ddwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys
plant a phobl ifanc; addysg; iechyd, gwasanaethau gofal a gofal cymdeithasol
mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Ar ddechrau'r chweched Senedd, cytunodd
y Pwyllgor ar ei strategaeth, gan gynnwys ei weledigaeth a'i amcanion sy'n sail
i'r holl waith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud. Darllenwch y strategaeth
isod.</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod
o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, a’r Cadeirydd yw
Buffy Williams AS. Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor oedd Jayne Bryant AS rhwng 29
Mehefin 2021 a 15 Ebrill 2024. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau
isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â
nhw.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod nesaf dydd
Mercher, 11 Mawrth
2026.</news><link>ieListMeetings.aspx?CommitteeId=736</link>
<news>Ysgrifennodd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg ynghylch yr ymchwiliad Senedd gyfan ar Weithredu diwygiadau
addysg ar 11 Chwefror
2026</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39260</link>
<news>Ysgrifennodd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg ynghylch gwella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr ar 3
Chwefror
2026</news><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45187</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Recriwtio
a chadw athrawon, ar 29 Ionawr
2026</news><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=43763</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>Recriwtio a chadw
athrawon</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=43763</link>
>>>>
>>>Blaenraglen
waith<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37402</link>
>>>Trawsgrifiadau<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=736</link>
>>>Gwaith a gyflawnwyd gan y
Pwyllgor<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37404</link>
<<<
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei
gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan
gynnwys eu gofal cymdeithasol.