<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau gan y
Senedd i ystyried pob deiseb sy'n
bodloni ein rheolau o gasglu 250 llofnod. </OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor bum Aelod sy'n dod
o'r gwahanol grwpiau plaid sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei
gadeirio gan Jack Sargeant AS. </OpeningPara>
Newyddion
<news>Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod nesaf ar ddydd
Llun 13 Mai 2024.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=744&MId=13904&Ver=4</link>
<news>Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei Adroddiad:
Gaeaf cynhesach P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion
rhagdalu yng
Nghymru</news><link>https://senedd.cymru/media/cq0adkxa/cr-ld16181-w.pdf</link>
<news>Ar ddydd Mercher 12 Gorffennaf cynhaliwyd dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor
Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg,
‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â
phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai
2023</news><link> http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/1dd706c2-b655-42fc-9b44-df2e98a283fc?startPos=14986&autostart=True
</link>
<news>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad
y Pwyllgor 'Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn
gofal’.</news><link>https://senedd.cymru/media/lc2bv220/gen-ld15892-w.pdf</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad,
‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn
gofal’.</news><link>https://senedd.cymru/media/ra4amykw/cr-ld15703-w.pdf</link>
<news>Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi lansio
cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn gyntaf erioed i gydnabod a dathlu cyfraniad
ymgyrchwyr yng Nghymru. Mae'r canlyniad nawr yn
fyw.</news><link>https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/deisebau/deiseb-y-flwyddyn/</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei Adroddiad
Blynyddol
2022.</news><link>https://senedd.cymru/media/zjid1qjw/cr-ld15277-w.pdf</link>
<news>Mae gwefan Deisebau’r Senedd wedi cael ei
diweddaru.
Ar gyfer pob deiseb, gallwch nawr weld ‘map gwres’ sy’n
dangos ble mae pobl wedi bod yn llofnodi’r ddeiseb. Gallwch weld mapiau sy’n
dangos y llofnodion yn ôl Etholaeth neu Ranbarth. Gobeithio y bydd y nodwedd
newydd hon yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n creu deisebau a’r rhai sy’n eu
llofnodi.</news>
<news>Ddydd Mercher 16 Rhagfyr, cytunodd y Senedd i
ddiwygio’r Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â nifer y llofnodion sy'n ofynnol er
mwyn i ddeiseb gael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. O Ionawr 1 2022
ymlaen, bydd angen i unrhyw ddeiseb sy’n cael ei chyflwyno gasglu 250 o
lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor ei
hystyried.</news><link>https://senedd.cymru/media/pe4fydb2/cr-ld14726-w.pdf</link>
<news>Yn dilyn etholiad Jack Sargeant AS yn
gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 29 Mehefin 2021 yn y Cyfarfod Llawn, etholwyd
Buffy Williams AS, Joel James AS a Luke Fletcher MS yn aelodau o'r Pwyllgor
Deisebau ar 7 Gorffennaf 2021.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12322&Ver=4</link>
<news>Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 gan
gynnig yn y Cyfarfod
Llawn.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12318&Ver=4</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo
i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau
lleol</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40256</link>
<inquiry>P-06-1326
Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng
Nghymru</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40964</link>
<inquiry>P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd
camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian
parod</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=41309</link>