<OpeningPara>Yn dilyn etholiad y Senedd ar 6 Mai
2021, disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021 – bydd
gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon.</OpeningPara>
Trawsgrifiadau
>>>>
>>>Gweld
trawsgrifiadau cyfarfodydd ar ôl 1 Tachwedd
2017<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=434</link>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd hyd at 31
Hydref 2017<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15034</link>
<<<
Gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor
>>>>
>>>Adroddiadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16071</link>
>>>Ymchwiliadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15152</link>
>>>Deddfwriaeth<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16846</link>
<<<
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 15 Mehefin 2016 i gyflawni
swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 (ac
eithrio Rheol Sefydlog 21.8 i 21.11*) ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud
â deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad** sydd o fewn cymhwysedd y Senedd
neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu
Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Newidiwyd enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 29
Ionawr 2020 yn dilyn cynnig y cytunwyd arno yn y Senedd. Gweler hefyd adroddiad
y Pwyllgor Busnes, Diwygio teitl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, mis Ionawr 2020.
Dylid darllen unrhyw gyfeiriad ar dudalennau gwe'r
Senedd, ar Senedd TV neu yn nhrawsgrifiadau cyfarfodydd at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad cyn 29 Ionawr 2020 fel cyfeiriad at y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
^Diwygiwyd cylch gwaith y Pwyllgor yn dilyn
penderfyniadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Medi 2016* a 29 Ionawr 2020**.