Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

·         Cofnodion y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020 – Papur 1

·         Papur diweddaru a’r rhaglen waith – Papur 2

·         Trafod y llythyr gan y Pwyllgor Busnes – Papur 3

 

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dewiswyd Trevor Reaney yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.3     Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr.

1.4     Cyn y cyfarfod, cyfarfu'r Bwrdd â'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau a Grŵp Cynrychiolwyr y staff cymorth, a oedd yn adeiladol ac a groesawyd yn fawr. Nododd y Bwrdd y byddai materion a godwyd yn y cyfarfodydd hynny yn llywio ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

1.5     Trafododd y Bwrdd pa adnoddau ychwanegol y gallai eu gweithredu i wneud ei orau i liniaru unrhyw risg posibl i ddiogelwch staff cymorth wrth iddynt wneud eu gwaith. Cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais diogelwch personol ychwanegol ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i'r Aelodau eu hunain).

1.6     Nododd y Bwrdd y bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd, ar gyfer yr wythnos hon yn unig, y gellid defnyddio'r nifer cyfyngedig o deithiau yn ôl a blaen gan staff cymorth rhwng etholaeth /rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd ddwyrain Cymru a amlinellwyd yn y Penderfyniad.

1.7     Trafododd y Bwrdd gais gan y Llywydd i ystyried diwygio cyfradd cyflog Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adlewyrchu cynnydd o ran ei gyfrifoldebau.

1.8     Cytunodd y Bwrdd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd cyflog lefel uwch i gadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gyfradd hon yn gymwys o 1 Mawrth 2020 tan ddiwedd y Pumed Cynulliad.

1.9     Nododd a chytunodd y Bwrdd ei Flaenraglen Waith am weddill ei gyfnod.

Camau gweithredu:

-     Yr Ysgrifenyddiaeth i roi gwybod i’r Llywydd am y penderfyniad i dalu rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y gyfradd gyflog lefel uwch ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn.

-     Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.

2.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o’r llawlyfr staff cymorth

·         Papur cwmpasu’r adolygiad – Papur 4, Atodiadau 1 - 6

 

Cofnodion:

2.1        Croesawodd y Bwrdd Joanna Adams i'r cyfarfod.

2.2        Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth.

2.3        Cytunodd y Bwrdd, yn dilyn trafodaeth ar yr adolygiad o'r llawlyfr, y byddai'n briodol adnewyddu'r contract presennol i adlewyrchu'r newidiadau i’r llawlyfr. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn gydnaws â’i gilydd a'u bod yn addas ar gyfer y Chweched Senedd.  

2.4        Nododd y Bwrdd y byddai Cymorth Busnes i’r Aelodau yn trafod hyn ymhellach gyda'r Grwpiau Cynrychiolwyr dros yr wythnosau nesaf.  

 

3.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad a’r cynigion newid enw

·         Papur trosolwg – Papur 5

·         Ymatebion i’r ymgynghoriad – Papur 5 – Atodiad A

 

Cofnodion:

3.1        Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2020-21 a’r cynigion o ran y newid enw.

3.2        Penderfynodd y Bwrdd gynyddu’r lwfans gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol 1.7 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn cynyddu'r lwfans i £9,720 y flwyddyn (sef £810 fesul mis calendr).

3.3        Cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant a fydd yn golygu bod y lwfans yn £999,070 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

3.4        Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar gyfyngiadau ar allu'r Aelodau i recriwtio ar gyfer contractau cyfnod penodol drwy ddiwygio'r Polisi Recriwtio. Byddai recriwtio o'r fath yn destun cyfyngiad o 18 mis yn lle'r cyfyngiad chwe mis presennol. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r penderfyniad yn dod i rym o'r flwyddyn ariannol nesaf. 

3.5        Cytunodd y Bwrdd i ddiwygio'r Polisi Recriwtio i adlewyrchu'r penderfyniad hwn. Bydd y Polisi Recriwtio yn parhau i nodi y bydd pob penodiad sy'n hwy na chwe mis yn destun proses recriwtio agored a theg.

3.6        Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddiwygio'r adran ar Gymorth Dros Dro yn y Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn i ddod i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.

3.7        Nododd y Bwrdd y bydd newid enw'r Cynulliad i'r Senedd yn digwydd ar 6 Mai 2020. Cynigiodd y Bwrdd ei bod yn rhesymol na ddylai Aelodau allu hawlio costau diweddaru eitemau o ganlyniad i'r newid enw, fel arwyddion swyddfa, cyn etholiad nesaf y Cynulliad.

3.8        Cytunodd y Bwrdd i beidio â chaniatáu i Aelodau hawlio costau adnewyddu eitemau sy'n gysylltiedig â newid enw cyn yr etholiad nesaf. Mae'r Bwrdd yn cadw at ei farn flaenorol fod hwn yn ddull priodol oherwydd y trosiant posibl yn nifer yr Aelodau mewn etholiad a hyd oes fer arwyddion newydd.

3.9        Cyhoeddir fersiwn wedi'i diweddaru o'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf maes o law.

 

4.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o effeithiolrwydd y of the Bwrdd

·         Papur cwmpasu’r adolygiad – Papur 6

 

Cofnodion:

4.1        Croesawodd y Bwrdd Gareth Watts, y Pennaeth Llywodraethu, i'r cyfarfod.

4.2        Ystyriodd y Bwrdd gynigion i gynnal adolygiad diwedd tymor o'i effeithiolrwydd, gan gynnwys cwmpas yr adolygiad, y cylch gorchwyl drafft a'r themâu i edrych arnynt ymhellach.

4.3        Cytunodd y Bwrdd i gynnal adolygiad diwedd tymor a fydd yn ystyried effeithiolrwydd perfformiad y Bwrdd dros ei gyfnod; sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn unol â Mesur 2010, a sut mae wedi cyflawni ei waith yn ôl ei strategaeth.

4.4        Disgwylir y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2020 ac y bydd yn llywio adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd ei gyfnod.

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd gwaith y Bwrdd ac adrodd yn ôl i'r Bwrdd yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.

5.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth

·         Papur trosolwg – Papur 7

 

Cofnodion:

5.1        Bu'r Bwrdd yn ystyried ac yn trafod opsiynau a chostau ar gyfer darparu yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth yr Aelodau.

5.2        Cytunodd y Bwrdd i gynnal y trefniadau yswiriant presennol.

Cam gweithredu:

-     Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn nodi y bydd y trefniadau yswiriant cyfredol yn cael eu cynnal ac y bydd cost yr yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth yn cael ei thalu gan Gomisiwn y Cynulliad.