Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
Wythnos Hon Dydd
Mawrth
Dydd
Mercher
Yn dilyn
cais Vikki Howells yr wythnos diwethaf i symud ei Dadl Fer, nododd y Rheolwyr
Busnes fod Neil Hamilton wedi cytuno i gyfnewid dyddiadau gyda hi, felly bydd
ei Ddadl Fer yn cael ei chynnal ddydd Mercher. Dywedodd y
Dirprwy Lywydd wrth y Reolwyr Busnes fod gan Gyfnod 3 y Bil Senedd ac
Etholiadau ddydd Mercher gyfanswm o 181 o welliannau mewn saith grŵp ac
felly rhagwelir y bydd yn cymryd tua 3 i 4 awr. Bydd y Dirprwy Lywydd yn galw
egwyl byr o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3, a chaiff alw un arall yn
ystod yr eitem pe bai angen |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod y cynnig i amrywio trefn
ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Rhesymol)
(Cymru) bellach wedi’i dynnu’n ôl gan nad oes ei angen. Dywedodd wrth y
Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y ddadl Cyfnod 3 nawr yn digwydd ym mis Ionawr, a
chytunodd i gadarnhau a yw'r oedi hwn oherwydd yr angen i gael caniatâd
Gweinidog y Goron. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 4 Rhagfyr 2019
|
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ddydd Mercher 20 Tachwedd: NNDM7188
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle. 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai: a)
galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn
dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion; b) galluogi
awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a
llwybrau teithio llesol; c) lleihau
tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr; d) annog
cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar
gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus; e) cymell
Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar
waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n
achosi argyfwng yn yr hinsawdd. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddwy ddadl nesaf ar 5 Chwefror ac 11 Mawrth 2020. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr amserlen gyllidebol ddiwygiedig, gyda dyddiad cau
diwygiedig o 31 Ionawr i bwyllgorau adrodd, a nodwyd y byddai'r Pwyllgor Cyllid
yn penderfynu ddydd Mercher yr wythnos hon a ddylid cyfarfod yn ystod wythnos
gyntaf y toriad. Cytunodd y Trefnydd i sicrhau bod Gweinidogion yn ymwybodol
o'r angen i fod ar gael yn ystod wythnos gyntaf y tymor ym mis Ionawr ar gyfer
craffu gan bwyllgorau. |
|
Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Pleidleisio drwy ddirprwy Cofnodion: Trafodwyd
y papur gan y Rheolwyr Busnes, a gofynnodd Darren Miller i wrthwynebiad mewn
egwyddor Grŵp y Ceidwadwyr i bleidleisio drwy ddirprwy gael ei gofnodi.
Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes i edrych ar gyflwyno pleidleisio drwy
ddirprwy mewn dau gam. Yn gyntaf, ystyried ei weithredu ar gyfer absenoldeb
rhiant yn unig, ac yn ail ystyried y posibilrwydd o'i ymestyn i salwch tymor
hir a chyfrifoldebau gofalu eraill, ar ôl i Dŷ'r Cyffredin adolygu ei
gynllun. Gofynnodd
y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddod â phapur iddynt ar yr opsiynau ar
gyfer gweithredu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn unig
yn y lle cyntaf. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar y cyfnod cyn yr etholiad Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y canllawiau. Nododd Darren Millar fod paragraff 10 yn sôn am
gyngor ar wahân i Gynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru a gofynnodd a ellid
rhannu hyn gyda'r Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Trefnydd i rannu'r cyngor os yn
bosibl. |