Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am fwriad y llywodraeth i gyflwyno cynnig i
atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit gael ei chynnal fel yr
eitem olaf o fusnes cyn y Cyfnod Pleidleisio heddiw. Bydd hyn yn disodli'r
'Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (45 munud)' sydd wedi'i
dynnu'n ôl yn amodol ar dderbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog. Datganodd
y Trefnydd ei bwriad i gyflwyno'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog a'r cynnig am
ddadl cyn gynted â phosibl y bore yma. Yn dilyn hynny, bydd y Llywydd yn
cyfleu'r dyddiad cau ar gyfer gwelliannau i Reolwyr Busnes. Soniodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes, hefyd, am y newidiadau canlynol i fusnes yr
wythnos hon: ·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025
(45 Munud) ·
Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 6
Tachwedd 2019 - ·
Cynnig i amrywio'r
drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
(5 munud) Dydd Mercher 20
Tachwedd 2019 - ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ystyried ei
egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr
amserlen arfaethedig. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais i'r Pwyllgor gwrdd y tu allan i'r amser a nodir ar yr
amserlen yn ystod wythnos 21 Hydref. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Pleidleisio drwy Ddirprwy Cofnodion: Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a dychwelyd ato yn
eu cyfarfod ar 12 Tachwedd. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Roedd Reg
Kilpatrick (Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol) yn bresennol yn y cyfarfod i roi
diweddariad byr i'r Rheolwyr Busnes ar y gofynion tebygol ar Weinidogion fel
rhan o weithgaredd Ymateb Parodrwydd Brexit arfaethedig Llywodraeth Cymru pe
bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref. Roedd hyn yn
cynnwys yr angen posibl am hyblygrwydd o ran eu hargaeledd i graffu yn y
Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau. |