Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i Fusnes y
Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf: Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019 – ·
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Y
Gweithgor ar Lywodraeth Leol - y camau nesaf (45 munud) ·
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019 Dadl ar
Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd (90 munud) |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 -
·
Dadl ar y cyd gyda Senedd Ieuenctid Cymru (60
munud) ·
Dydd Mercher 3
Gorffennaf 2019 - ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd o 26
Mehefin ·
Dadl ar adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y
dyfodol (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws
cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Eitem fusnes ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid ystyried yr eitem fel yr eitem gyntaf o fusnes - cyn
busnes y Llywodraeth. Cytunwyd hefyd i gynnal pleidlais (os oes angen) ar y
cynnig yn syth ar ôl i'r eitem ddod i ben, yn hytrach na'i gohirio tan y Cyfnod
Pleidleisio. Nodwyd y bydd y Llywydd yn atal y cyfarfod ar ôl yr eitem, gyda
busnes yn ailddechrau am 14.30. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd i aildrefnu dadl Cynnig Deddfwriaethol yr Aelodau i 3
Gorffennaf, er mwyn cynnwys yr eitem ychwanegol. Gofynnodd
y Trefnydd i rywun o dîm Senedd Ieuenctid y Comisiwn fod ar gael i drafod y
datganiad drafft gyda swyddogion y Llywodraeth. |
|
Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Mehefin: NNDM7068 Siân
Gwenllian Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes
Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan. Cefnogir
gan: Suzy
Davies |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Cyllid am gyfarfod ffurfiol oddi ar y safle Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at y Llywydd Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr, a chytuno ar amserlen y Bil. |
|
Ystyried deisebau 5000 o lofnodion Cofnodion: Ystyriodd
a nododd y Rheolwyr Busnes y papur. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3 Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes yr adroddiad a gofyn am wneud rhai newidiadau. Bydd
swyddogion yn gwneud y newidiadau ac yn ailddosbarthu i Reolwyr
Busnes i'w
cytuno, cyn ei osod yr wythnos hon. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau. Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunodd Caroline Jones i gadarnhau dewisiadau
plaid Brexit ar ôl eu cyfarfod grŵp y bore yma. |