Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.00) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2.
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018. 1.3.
Cydymdeimlodd y Bwrdd â
theulu, ffrindiau a chydweithwyr Steffan Lewis, y cyn Aelod Cynulliad, yn eu
profedigaeth. Diolchodd y Bwrdd i: - dîm Cymorth Busnes yr Aelodau am y cymorth a’r cyngor y
maent yn parhau i'w gynnig i deulu Steffan a’i staff cymorth; - yr ysgrifenyddiaeth am roi gwybod i’r Bwrdd am y materion
sy'n codi. 1.4.
Nododd y Bwrdd y
darpariaethau ar gyfer dirwyn swyddfa Steffan Lewis i ben. 1.5.
Cynhaliodd y Bwrdd ei adolygiad
blynyddol o'r holl geisiadau am dreuliau eithriadol yr oedd wedi'u cymeradwyo’n
flaenorol ac, o ystyried bod yr Aelodau wedi’u sicrhau nad oedd eu sefyllfa
wedi newid ers i’r Bwrdd gymeradwyo’r taliadau ychwanegol gyntaf, cytunodd y
dylent barhau i gael y taliadau ychwanegol. Nododd y Bwrdd y bydd nifer a maint
y taliadau eithriadol yn 2018-19 yn cael eu cyhoeddi yn ei adroddiad blynyddol. 1.6.
Cytunodd y Bwrdd i
ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y
Cynulliad i ofyn iddynt ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd. Camau i’w cymryd: Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn: - cyhoeddi nodyn o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd; - rhoi gwybod i’r holl Aelodau sy'n cael treuliau
eithriadol am benderfyniad y Bwrdd; - ysgrifennu at staff cymorth Aelodau annibynnol i
ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd. |
|
(10.00 - 11.30) |
Eitem i benderfynu yn ei chylch: Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau a’r gweithdrefnau disgyblu a chwyno: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad Cofnodion: Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau 2.1
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion a ddaeth i law ynghylch ei gynigion i ddiwygio'r trefniadau ariannu i
gyflogi aelodau o'r teulu (cynigion un a dau yn yr ymgynghoriad). 2.2.
Ar ôl ystyried yr
ymatebion ochr yn ochr ag amcanion statudol y Bwrdd, gan wneud hynny’n ofalus
ac â meddwl agored, cytunodd y Bwrdd i
ddiwygio’i gynigion gwreiddiol mewn perthynas â’r trefniadau ariannu ar
gyfer cyflogi aelodau o'r teulu. 2.3.
Cytunodd y Bwrdd i
ofyn am ragor o gyngor cyn rhoi unrhyw newidiadau ar waith o ran y
trefniadau ariannu i gyflogi aelodau o’r teulu. 2.4.
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law mewn perthynas â’i gynigion i ddiwygio
telerau ac amodau staff cymorth (cynigion tri, pedwar a phump) a chytunodd i
gyflwyno’r newidiadau ganlyn o 1 Ebrill 2019 ymlaen -
addasu cyflogau staff
cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau
ac Enillion (ASHE) -
cyflwyno diwrnodau braint
ar gyfer staff cymorth; -
cyflwyno polisi newydd i
ganiatáu i staff cymorth fedru hawlio absenoldeb tosturiol. 2.5 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth gydweithio ar ei ran â
chynrychiolwyr staff cymorth i sicrhau bod y polisi absenoldeb tosturiol yn
addas i'r diben. Camau i’w cymryd Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn: -
ceisio rhagor o gyngor
ynghylch penderfyniad y Bwrdd i gyflwyno’r newidiadau arfaethedig i gynigion un
a dau; -
gweithio gyda staff
cymorth i ddatblygu'r polisi absenoldeb tosturiol; -
rhoi gwybod i'r Aelodau
a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y
Bwrdd yn derfynol; -
paratoi Penderfyniad
diwygiedig i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2019. Adolygiad o'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno 2.6
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a
ddaeth i law mewn perthynas â chynigion chwech a saith a chytunodd i ddiwygio'r
ddwy weithdrefn i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a
Pharch y Cynulliad. 2.7
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r
ysgrifenyddiaeth gydweithio â chynrychiolwyr staff cymorth ar ei ran i sicrhau
bod y gweithdrefnau'n addas i'r diben. Camau i’w cymryd Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn: -
gweithio gyda staff
cymorth i ddatblygu'r gweithdrefnau; -
rhoi gwybod i'r Aelodau
a'r staff cymorth am y newidiadau arfaethedig unwaith y bydd penderfyniad y
Bwrdd yn derfynol. |
|
(11.30 - 12.15) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ailystyriaeth o ran un. Cofnodion: 3.1
Trafododd y Bwrdd y
darpariaethau yn y penodau hynny yn y Penderfyniad sy’n ymdrin â gwariant ar
lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa'r Aelodau. Mae’r rhain yn dod o
dan ran un o’i adolygiad. 3.2
Bydd y
Bwrdd yn ailystyried y materion a godwyd yn ei
gyfarfod nesaf |
|
(13.00 - 14.30) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth ar ran un (parhad) Cofnodion: 4.1
Fel eitem
3. |
|
(14.45 - 16.15) |
Eitem i benderfynu yn ei chylch: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20 Cofnodion: Cyflogau staff cymorth 5.1
Cyfeiriodd y Bwrdd at ei
benderfyniad cynharach (eitem dau) i addasu cyflogau staff cymorth ym mis
Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn ôl enillion gros canolrifol yr Arolwg
Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer swyddi cyflogedig amser llawn yng
Nghymru. Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn sicrhau cysondeb rhwng y modd y caiff
cyflogau staff cymorth a’r Aelodau eu mynegeio. 5.2
O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd
cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth yn codi 1.2 y cant. 5.3
Gan y byddai’r newid yn
weithredol o 1 Ebrill 2019 ymlaen, cytunodd y Bwrdd i beidio â chynnig unrhyw
newidiadau ychwanegol i gyflogau staff cymorth yn 2019-20. Bydd y cyflogau
diwygiedig yn rhan o’r Penderfyniad ar gyfer 2019-20. Lwfans Costau Swyddfa 5.4
Trafododd y Bwrdd y ffactorau
amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa’r Aelodau. 5.5
Cytunodd y Bwrdd fod y swm y
mae’r Aelodau’n ei wario’n dangos bod y lwfans presennol yn ddigonol ac, o
ganlyniad, penderfynodd ei adael fel y mae, sef £18,260 a £4,912, yn ystod
blwyddyn ariannol 2019-20 Gwariant ar Lety Preswyl 5.6
Trafododd y Bwrdd y
ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar y swm y mae’r Aelodau’n ei wario ar lety
preswyl 5.7
Nododd y Bwrdd nad yw’r lwfans
ardal allanol wedi newid ers 2017-18. 5.8
Cytunodd y Bwrdd i
ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2018, sef 2.4 y cant,
fel cyfradd i godi'r lwfans ardal allanol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion ag y mae'r Bwrdd wedi eu defnyddio i godi
lwfansau eraill yn y gorffennol. Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.4 y cant
yn y lwfans. 5.9
Cytunodd y Bwrdd mai’r uchafswm ar gyfer gwaith trwsio
hanfodol fydd £882 y flwyddyn a’r uchafswm ar gyfer costau rhent Aelodau a
chanddynt ddibynyddion - dim ond Aelodau y mae eu
prif gartref yn yr ardal allanol sy’n cael hawlio’r lwfans hwn. 5.10
Nododd y Bwrdd nad yw’r
lwfans ardal ryngol wedi newid ers ei gyflwyno. 5.11
Er mwyn adlewyrchu'r angen
cynyddol i Aelodau aros dros nos ym Mae
Caerdydd ers i'r lwfans ardal ryngol gael ei gyflwyno gyntaf yn 2012, cytunodd
y Bwrdd i gynnig cynyddu'r lwfans i £6,840 y flwyddyn. 5.12
Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnig newid geiriad y ddarpariaeth yn unol â hynny i
adlewyrchu’r ffaith bod modd defnyddio’r lwfans droeon. Ymgynghoriad
5.13
Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori
ynghylch yr holl gynigion uchod. Y dyddiad cau fyddai 12 Mawrth 2019. 5.14
Bydd y Bwrdd yn ystyried yr
ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth Camau i’w cymryd: Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn: - paratoi Penderfyniad diwygiedig i adlewyrchu'r newidiadau
yng nghyflogau staff cymorth; - cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad; - paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w
hystyried yng nghyfarfod mis Mawrth. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 6.1
Nododd y Bwrdd yr
adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i ystyried y materion a
godwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. |