Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai dadl ar
Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn yr hydref, yn ystod amser y
llywodraeth. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 – ·
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud) Dydd Mercher 26 Medi 2018 – ·
Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran
lliniaru effeithiau newid hinsawdd (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 |
|
Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19 Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn
gofyn am ei farn ar yr amserlen ac i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod
cyntaf ym mis Medi. |
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf 2018 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y papur. |
|
Unrhyw fater arall Biliau
Aelodau Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd hi o blaid cynnal pleidlais arall ar
Filiau Aelodau nes ei bod yn fodlon na fyddai'n ymyrryd â llwyth gwaith
deddfwriaethol y Cynulliad, gan gynnwys Biliau anllywodraethol sydd eisoes ar y
gweill, a materion yn codi o Brexit, ond y byddai'n parhau i'w adolygu.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur yn nodi amserlenni, dyddiadau allweddol a
chyfnodau o bwysau ar gyfer Biliau Aelodau. Enwebiad
ar gyfer Comisiynydd y Cynulliad Dywedodd Gareth
Bennett wrth y Pwyllgor Busnes yr hoffai UKIP ail-enwebu Neil Hamilton fel
aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd, y byddai'n rhaid i'r Pwyllgor
Busnes gyflwyno cynnig i'r Cynulliad ei ystyried er mwyn i'r enwebiad fynd
rhagddo. Nododd y
Rheolwyr Busnes nad oedd ganddynt unrhyw reswm i feddwl y byddai eu haelodau'n
pleidleisio'n wahanol pe bai cynnig arall i enwebu Neil Hamilton yn cael ei
gyflwyno, ac felly cytunodd nad oedd unrhyw ddiben i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno
cynnig o'r fath. Gofynnodd
y Llywydd i Grŵp UKIP ystyried y drafodaeth hon ac a ellid cyflwyno
enwebiad amgen a fyddai'n cael cefnogaeth y Cynulliad. Nododd y Llywydd na fyddai gan y Pwyllgor
Busnes unrhyw reswm i beidio â chyflwyno cynnig yn enwebu Aelod arall o
grŵp UKIP i'r Cynulliad ei ystyried. |