Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio dadl UKIP
(a drefnwyd ar gyfer 4 Gorffennaf 2018) tan 19 Medi 2019. ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018 – ·
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn
perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Dydd Mercher 19 Medi 2018 – ·
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013 (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y
Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch yr Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Awtistiaeth (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o 12 Mehefin i gyfeirio'r Bil
Awtistiaeth (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar
gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar 7 Rhagfyr 2018 fel y dyddiad
cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad Cyfnod 1 ac ar 22 Chwefror 2019 fel y
dyddiad cau i'r Pwyllgor gwblhau ei drafodion Cyfnod 2. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyheoddus ynghylch cais am gyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn am gyfarfod
ychwanegol ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018 er mwyn galluogi'r Pwyllgor i
ymgymryd â'i holl fusnes sydd wedi'i drefnu cyn toriad yr haf. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur ymhen 2 wythnos. |
|
Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r adroddiad ar ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr
yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher nesaf. |