Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. Bydd pleidlais electronig ar y Ddadl
ynghylch Polisi Urddas a Pharch y Cynulliad ddydd Mercher. Ni fydd cynnig i
dderbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 ar ddiwedd yr eitem, ac yn lle
hynny caiff y bleidlais ei gohirio'n awtomatig tan y cyfnod pleidleisio. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
13 Mehefin 2018 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y
strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais ar y cyd gan Mick Antoniw a Sian Gwenllian
i gyfnewid eu slotiau ar gyfer Dadl Fer (yn wreiddiol ar 13 ac 20 Mehefin, yn y
drefn honno). Bydd Dadl Fer Sian Gwenllian bellach yn ymddangos ar y Datganiad
a Chyhoeddiad Busnes ar gyfer 13 Mehefin, a bydd Dadl Fer Mick Antoniw yn symud
i 20 Mehefin. |