Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2. Roedd David Melding AC yn bresennol, yn dirprwyo ar
ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitem 8. |
||
(09.00 - 10.30) |
Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth 6 Alun Davies AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Claire Bennett,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru Claire Germain,
Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros
Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ·
Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau
Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru 2.2. Yn
ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i roi nodyn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn
adolygu'r partneriaethau rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau
Partneriaeth Rhanbarthol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(10.40 - 10.55) |
Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 4.1.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2. |
|
(10.55 - 11.25) |
Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad Cofnodion: 5.1.
Trafododd y Pwyllgor ei ddull craffu a chytunodd arno. |
|
(11.25 - 11.55) |
Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 6.1.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân
newidiadau. |