Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Atgoffodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes fod yn rhaid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi ar bob
cynnig Cyfnod 4, yn dilyn newidiadau diweddar yn y Rheolau Sefydlog mewn
perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd. Felly ni fyddai'n gwahodd y Cynulliad i gytuno
ar y cwestiwn ar ddiwedd y ddadl honno, ond yn gohirio'r bleidlais yn awtomatig
tan y cyfnod pleidleisio; ·
Byddai’r
Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar
gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
17 Ionawr 2018 -
|
|
Dadleuon gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion:
Lee Waters (Llanelli): Mick Antoniw (Pontypridd): David Melding (Canol De Cymru): Nick Ramsay (Mynwy): Hefin David (Caerffili): Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): David Rees (Aberafan): Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith
trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu’r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru. 2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system
trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i
ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio’r car. 3. Yn croesawu'r ymrwymiad i’r camau cyntaf tuag
at metro de Cymru. 4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu
gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i
ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel
cam nesaf . 5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru
gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i
fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at
orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.
17 Ionawr 2018 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Leanne Wood (Rhondda): Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn cydnabod bod tystiolaeth
glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol. 2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r
unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael
ar y GIG, ei fod dim ond wedi’i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar
gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) a sy'n
bodloni'r meini prawf. 3. Yn credu y dylai Llywodraeth
Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol;
ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y
gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion
meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono. 4. Yn nodi a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda
chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn
defnyddio canabis y cawsant yn anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond,
drwy wneud hynny, yn wynebu’r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o
gyffuriau eraill; b) bod y grŵp seneddol
hollbleidiol (APPG) ar ddiwygio polisi cyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi
galw’n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig
ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau’r adolygiad
annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P Barnes; c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n
rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr
Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio
canabis gwair at ddefnydd meddygol; d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys
yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd
meddygol o'r Iseldiroedd; e) bod MS Society UK wedi newid ei
safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i 'ddatblygu system
sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol' yn sgil tystiolaeth
gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a sbastigedd; f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr
Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn ar gyfreithloni canabis at ddefnydd
meddyginiaethol ei drosglwyddo’n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad
nesaf ar 23 Chwefror 2018. Canabis: Y Dystiolaeth ar gyfer
Defnydd Meddygol - Yr Athro Michael P Barnes MS Society UK - Cannabis ac MS Legalisation of Cannabis (Medicinal
Purposes) Bill 2017-19 |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, a chynnig y
llywodraeth i beidio â'i gyfeirio at bwyllgor i graffu arno, a dychwelyd at y
mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Trefniadau cyflwyno |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig 2017 Cofnodion: Business Managers agreed the proposed tabling
arrangements during the Christmas recess period. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Dywedodd Julie James y bydd yn cyflwyno papur yn nodi barn ei grŵp ar
y materion hyn. Bydd y Rheolwyr Busnes
yn ystyried y materion yn y papur bryd hynny. Cododd Rhun ap Iorwerth y mater bod nifer o Aelodau wedi dweud eu bod yn
anfodlon â'r atebion a gafwyd i gwestiynau ysgrifenedig yn ddiweddar, yn
enwedig mewn perthynas â'r gwahanol ymchwiliadau a gyhoeddwyd gan y Prif
Weinidog. Gofynnodd y Llywydd i Arweinydd y Tŷ fod yn ymwybodol o'r angen
cyffredinol i'r llywodraeth ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib i'r Aelodau,
ac am yr angen penodol yn yr amgylchiadau presennol i fod yn glir ynghylch yr
hyn sydd o fewn cwmpas y gwahanol ymchwiliadau a’r hyn sydd ddim. |