Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ymddiheurodd y Llywydd am ei
habsenoldeb a bu’r Dirprwy Lywydd yn cadeirio’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Byddai'r holl
bleidleisiau mewn perthynas â'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. ·
Cadarnhaodd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes
yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. ·
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod
3 ddechrau. Dydd Mercher ·
Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
10 Ionawr 2018 - ·
Dadl ar
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n
Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol
Gwarchodedig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd
i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau - dewis cynnig ar gyfer dadl Cofnodion: ·
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 6 Rhagfyr: NDM5518 David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng
Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus. ·
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu dwy ddadl ar Gynigion Deddfwriaethol yr Aelodau yn y
Flwyddyn Newydd, a dewiswyd y cynigion canlynol: 17 Ionawr 2018 NNDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil Parhad i Gymru 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd
yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru
2017. 7 Chwefror 2018 NNDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol
drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt
ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau. |
|
Unrhyw fater arall Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 12 Rhagfyr yn
dechrau am 8am. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r papur ar Gwestiynau Llafar y Cynulliad,
a ohiriwyd yr wythnos diwethaf, ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf. |