Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd Neil Hamilton yn bresennol fel dirprwy i David Rowlands. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai Cynnig i ddyrannu Cadeiryddion
Pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn cael ei ychwanegu at yr agenda heddiw ar ôl
y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. ·
Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor y byddai dau ddatganiad yn cael eu
hychwanegu at yr agenda heddiw: - Datganiad gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Diogelwch Tân yng Nghymru - Y
camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell (30 munud) - Datganiad gan
y Prif Weinidog: Brexit a Datganoli: Diogelu Dyfodol Cymru (60 munud) ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil
Trafodiadau Tir (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall
o fusnes yn digwydd cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. ·
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i
drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Dydd Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes, os cytunir ar y cynnig i ddyrannu cadeiryddion
yn agenda dydd Mawrth ei gytuno, y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar
gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau ar ddechrau'r cyfarfod ddydd Mercher. ·
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod dau gynnig arall wedi cael eu
hychwanegu at agenda dydd Mercher mewn perthynas â Gweithdrefnau Cyllid a
Phrotocol y Gyllideb; byddai'r rhain yn cael eu grwpio gyda'i gilydd ar gyfer y
ddadl ond gan gynnal pleidleisiau ar wahân. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal
cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: ·
Penderfynodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o
fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
·
Cynnig i
gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a nodi'r
adroddiad cydymffurfiaeth ar gyfer y cyfnod 2015-2017 (60 munud) ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar y Ddeiseb
'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru' (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - amserlen ddiwygiedig Cofnodion: ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Anghenion
Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - i newid y dyddiad terfyn cau
ar gyfer trafodion pwyllgor yng Nghyfnod 2 o 21 Gorffennaf 2017 i 20 Hydref
2017. |
|
Pwyllgorau |
|
Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes rôl Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig, aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ac a ddylai
cydbwysedd newydd y grwpiau plaid arwain at newidiadau o ran aelodaeth neu
gadeiryddiaeth ar gyfer unrhyw bwyllgor arall. Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod y gadair yn wag ers dechrau mis
Ebrill. Gan fod y Rheolwyr Busnes wedi trafod y mater nifer o weithiau ers
hynny, roedd hi eisiau i'r Pwyllgor ddod i benderfyniad am y gadeiryddiaeth.
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y Rheolau Sefydlog perthnasol, yn
bennaf: - 17.2R a 17.13,
sy'n gofyn i'r Pwyllgor ystyried effaith lleoedd gwag ar y cydbwysedd rhwng
Cadeiryddion ac aelodaeth rhwng grwpiau gwleidyddol; ac - 17.2B, sy'n
gofyn i'r Pwyllgor roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y
pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn
iddynt. Cynigiodd Jane Hutt i gyfnewid dyraniad cadeiryddion y pwyllgorau CCERA a
Deisebau, gyda'r cyntaf yn cael ei roi i Lafur a'r ail i UKIP. Dywedodd Rhun ap
Iorwerth ei fod yn cefnogi'r cynnig hwn. Dywedodd Neil Hamilton y byddai'n
cefnogi'r cynnig pe bai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i beidio â lleihau dyraniad
amser UKIP yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd Paul Davies yn cefnogi'r cynnig gan
nad oedd yn mynd i'r afael â'r mater bod gan y Ceidwadwyr lai o gadeiryddion na
Phlaid Cymru. Gofynnodd dau o'r Rheolwyr Busnes am gael atal y cyfarfod am gyfnod byr er
mwyn iddynt drafod y cynnig yn breifat. Ar ôl cadarnhau nad oedd unrhyw
wrthwynebiad i hyn, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 08.53 yn unol â Rheol
Sefydlog 17.47. Cafodd y cyfarfod ei ail-gynnull am 08:56. Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig i gyfnewid dyraniad cadeiryddion y
Pwyllgorau CCERA a Deisebau: pleidleisiodd Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth a Neil
Hamilton o blaid, a phleidleisiodd Paul Davies yn erbyn. Felly, cytunwyd ar y
cynnig. Yna gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes ystyried a oeddynt yn dymuno
gwneud unrhyw newidiadau pellach i ddyraniad cadeiryddion y pwyllgorau o
ystyried y cydbwysedd gwleidyddol newydd yn y Cynulliad. Cynigiodd Paul Davies y dylid ailddyrannu un o gadeiryddiaethau Plaid Cymru
i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i adlewyrchu'r ffaith mai nhw yw'r mwyaf o'r
ddau grŵp bellach. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ailadroddodd y Llywydd
ei phenderfyniad, at ddibenion trefn busnes y Cynulliad, ac felly’r drafodaeth
hon, fod Mark Reckless yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y
Cynulliad. Roedd Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth, a Neil Hamilton yn gwrthwynebu'r cynnig
hwnnw, gan nodi'r angen i gynnal sefydlogrwydd y system bwyllgorau, ac osgoi
gorfod ail-ddyrannu cadeiryddion bob tro y byddai Aelod yn newid grŵp, fel
yr ystyriaethau pennaf. Felly, ni chytunwyd ar y cynnig. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes: ·
Bod cynnig yn
cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw i ddyrannu Cadeiryddion
Pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol; cynnig bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) yn cael ei dyrannu i'r
grŵp Llafur, a bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau yn cael ei dyrannu i
grŵp UKIP; ·
Bod y
grŵp UKIP yn cael ei wahodd i enwebu aelod newydd i'r Pwyllgor Cyllid; ·
Os caiff y
cynnig ei dderbyn, yr eitem gyntaf o fusnes ar agenda'r Cyfarfod Llawn yfory
fyddai enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau; ·
Os bydd mwy
nag un enwebiad, neu os caiff enwebiad ei wrthwynebu, a bod angen pleidlais
gudd, byddai'n cael ei chynnal brynhawn yfory, a byddai'r canlyniad yn cael ei
gyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn cyn y Cyfnod Pleidleisio; ·
Bod cynigion
ar wahân yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo modd yn cynnig newidiadau
canlyniadol i aelodaeth y Pwyllgorau Deisebau, CCERA a Chraffu ar Waith y Prif
Weinidog; ·
Bod y dyraniad
amser i grwpiau'r gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn yn parhau i fod yn 2:2:1
i'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a UKIP yn y drefn honno. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Papur i'w nodi – Trafod Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU Cofnodion: ·
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. |