Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd
Nathan Gill AC yn bresennol yn y cyfarfod, yn unol â RhS 11.5(iii). |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Byddai’r
Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y Rhaglen Lywodraethu ddydd Mawrth. Byddai
Plaid Cymru yn defnyddio'r amser a neilltuwyd i gynnal dwy ddadl 30 munud ddydd
Mercher. Byddai'r
Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn
y Ddadl Fer ar ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd
y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 28 Medi 2016 – ·
Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg
a Chyfathrebu ar agwedd y Pwyllgor at ei gylch gorchwyl, a sut y mae'n bwriadu
ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru (30 munud) Dydd Mercher 12 Hydref 2016 -
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer
y Ddadl
Dydd Mercher 28 Medi 2016
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Dydd Mercher 12 Hydref 2016
Lee
Waters (Llanelli) Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Huw
Irranca-Davies (Ogwr) John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles
gweithgareddau corfforol. 2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n
cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt
bob dydd. 3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp
oedran. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn
â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol
ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da. |
|
Pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i gynnig lle i Nathan Gill ar y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cynigiodd UKIP ildio ei le ar y Pwyllgor fel
bod ei faint yn aros yr un fath. Cytunodd
y Rheolwyr Busnes i adolygu'r Rheolau Sefydlog ar y diffiniad o grŵp, yn
enwedig mewn perthynas ag Aelod yn gadael neu'n cael ei atal o grŵp, a'r
berthynas gyda'r Pwyllgor Busnes. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Amser ar gyfer Llefarwyr Hysbysodd y Llywydd yr Aelodau o'i bwriad i
ganiatáu dim ond dwy funud i lefarwyr i wneud eu sylwadau rhagarweiniol yn
dilyn datganiad, cyn iddynt ddod at gwestiynau. Ni fydd cloc y Siambr yn cael
ei osod ar gyfer pob Aelod, ond bydd y Llywydd yn ymyrryd os nad yw Aelod yn dod
at gwestiynau ar ôl dwy funud. Aberfan Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am ei bwriad
i wahodd arweinwyr y pleidiau a Dawn Bowden AC (Merthyr Tudful a Rhymni) i
wneud cyfraniad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref, ynghyd â munud o
dawelwch, i nodi 50 mlynedd ers Trychineb Aberfan. Nododd y Rheolwyr Busnes eu
bod yn fodlon ar y trefniadau arfaethedig. |