Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|||||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|||||||||||
Trefn busnes |
|||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o
fusnes ddydd Mawrth a dydd Mercher. |
|||||||||||
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 10 Rhagfyr 2014 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cynnydd
sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
Llywodraeth Cymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) |
|||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu Difrifol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Troseddu Difrifol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Rhagfyr 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014. |
|||||||||||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a
Chyflogaeth. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 8 Ionawr 2015 er mwyn
i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mawrth 13 Ionawr 2015. |
|||||||||||
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gorchymyn Adran 109 Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, gyda gwelliant drafft
y Llywodraeth i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi'i atodi. |
|||||||||||
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014/2015 Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y papur sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl
Filiau, a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, sef biliau a gyflwynwyd yn Senedd y
DU a biliau a gyhoeddwyd ar ffurf drafft, ar gyfer y pedwerydd sesiwn seneddol. |
|||||||||||
Bil Cymwysterau Cymru Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r
Bil Addysg Uwch (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei
ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd
ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 13 Mawrth 2015, a'r dyddiad terfyn ar gyfer
cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 15 Mai 2015. |
|||||||||||
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r
Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 10 Ebrill 2015, a'r dyddiad
terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 5 Mehefin
2015. |
|||||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||||
Cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad Cofnodion: Trafododd y
Rheolwyr Busnes y cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad i ystyried amddiffyn
plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol. Nododd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'n cyflwyno amserlen tair wythnos newydd
o fusnes y llywodraeth i gynnwys cynnig i sefydlu Pwyllgor Cynulliad. Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai angen iddynt ystyried aelodaeth ac amserlen y Pwyllgor
mewn cyfarfod yn y dyfodol pe bai'r Pwyllgor yn cael ei sefydlu. |
|||||||||||
Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad yn 2015-16 Cofnodion: Nododd Elin
Jones yr hoffai i'r Pwyllgor ystyried cwtogi toriad y Nadolig o bedair wythnos
i dair wythnos yn 2015. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o'r farn y dylid parhau
gyda'r hen arfer a chael toriad o bedair wythnos o hyd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar ddyddiadau toriad y Sulgwyn a thoriad yr haf ar gyfer 2015 a
chytunwyd ar doriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig ar gyfer 2015/16
(gweler isod).
*Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||||
Unrhyw Fater Arall Rhoddodd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor Busnes am ddau Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol arall sy'n debygol o gael eu gosod yr wythnos hon, un ar
y Bil Dadreoleiddio mewn perthynas â darpariaethau pysgota anarferedig, ac un
arall ar y Bil Arloesedd Meddygol. |