Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/06/2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau, ac nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol.

 

1.2         Esgusododd Natasha Asghar ei hun ar gyfer yr eitem olaf.

(9.15 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol: Sesiwn dystiolaeth 5

Yr Athro Alistair Clark, Prifysgol Newcastle.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1         Trafododd y Pwyllgor atebolrwydd Aelodau unigol o’r Senedd ag Alistair Clark, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle.

(10.05 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol: Sesiwn dystiolaeth 6

Mick Antoniw MS, Y Cwnsler Cyffredinol.

Will Whiteley – Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio'r Senedd.

Ryan Price - Pennaeth Polisi y Senedd.

Cofnodion:

3.1          Trafododd y Pwyllgor atebolrwydd Aelodau unigol o’r Senedd â Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol; Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd; a Ryan Price, Pennaeth Polisi y Senedd.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1         Cytunwyd ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.00 - 11.20)

5.

Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1          Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiynau tystiolaeth.

(11.20 - 11.30)

6.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

6.1          Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad.