Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a’r Comisiynydd Safonau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant. |
|
(09.35 - 10.05) |
Adolygiad o'r polisi Urddas a Pharch Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at
y Prif Weithredwr. |
|
(10.05 - 10.20) |
Cod ar gyfer Aelodau Dynodedig Plaid Cymru sy'n Cymryd Rhan yn y Cytundeb Cydweithio Cofnodion: 3.1 Trafododd y
Pwyllgor y papur a chymerodd dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch Cod y Gweinidogion. |
|
(10.20 - 10.35) |
Cofrestr Buddiannau’r Aelodau Cofnodion: 4.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y papur a chytunodd y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gyhoeddi'r Gofrestr
Buddiannau gyfan bob tymor. |
|
(10.35 - 11.00) |
Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |