Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Sargent 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

 

09.30-09.35

2.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Pwyllgor Busnes ynghylch craffu Cyfnod 1 a thrafodion Cyfnod 2 ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).

 

2.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Bwrdd Rheoli Etholiadol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).

 

2.3 Nododd y Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol ynghylch y Bil.

 

2.4 Yn olaf, nododd y Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil.

 

09.35-10.55

3.

Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i barhau â’i drafodaethau yn y cyfarfod nesaf.