Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cyd-Gadeirydd, Joyce Watson AS, yr Aelodau
i’r cyfarfod. |
|
(9:00-9:30) |
Cynllun Trin Cyfathrebiadau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan gynrychiolwyr tîm
Newyddion a Chyfathrebu Comisiwn y Senedd. |
|
(9:30-10:00) |
Trafodaeth a Chamau Nesaf Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur briffio yn amlinellu'r
opsiynau ynghylch cynghorwyr arbenigol ac academyddion i gefnogi gwaith y
Pwyllgor. Trafododd yr aelodau opsiynau ar gyfer y camau nesaf y
gellid eu cymryd cyn i Ymchwiliad Covid y DU gyhoeddi ei adroddiad ar ei Fodiwl
1 ddechrau haf 2024. Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod nesaf yn gynnar yn 2024 ag
academyddion ac arbenigwyr, er mwyn cael cyngor ar faterion perthnasol sy’n
codi yn sgil modiwlau Ymchwiliad Covid y DU. At hynny, bydd y Pwyllgor yn cael sesiwn friffio ar y
fframwaith paratoadau sifil yng Nghymru i'n helpu i ddeall y maes hwn. Bydd y
cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. At hynny, cytunodd yr Aelodau i
gyhoeddi datganiad o fwriad yn y cyfamser, er mwyn amlinellu gwaith arfaethedig
y Pwyllgor. |