Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2024 - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14:00 - 14:15)

1.

Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU: Ystyried dull y Pwyllgor o ymgysylltu a chasglu tystiolaeth i nodi unrhyw fylchau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

 

(14:15 - 14:30)

2.

Ystyriaeth o Lwon a Chadarnhadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y defnydd o Lwon a Chadarnhadau a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i gynnig newid i Reol Sefydlog 35 Dros Dro ychwanegol - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i ganiatáu disgresiwn i'r Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i dystion dyngu Llw cyn darparu tystiolaeth.

(14:30)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Croesawodd Joyce Watson AS, y Cyd-Gadeirydd, yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

 

(14:30 - 14:35)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy'r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd

Dogfennau ategol:

(14:35 - 15:00)

5.

Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU: Cyhoeddi dull y Pwyllgor o ymgysylltu a chasglu tystiolaeth i nodi unrhyw fylchau

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei ddull o ymgysylltu a chasglu tystiolaeth ar gyfer ystyried Modiwl 1 o Ymchwiliad Covid-19 y DU fel a ganlyn:

  • Mae’r Pwyllgor wedi comisiynu Prifysgol Nottingham Trent (NTU) i gynnal dadansoddiad bwlch o adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU
  • Mae'r Pwyllgor wedi penodi Dr Simon Williams, Prifysgol Abertawe yn gynghorydd hirdymor i'r Pwyllgor
  • Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod â Grŵp Arsylwir Pwyllgor Covid mewn perthynas â’r bylchau posibl y mae wediu nodi o ran parodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19
  • Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 8 Tachwedd 2024 a 3 Ionawr 2025 ar Fodiwl 1 o Ymchwiliad Covid-19 y DU
  • Bydd y Pwyllgor yn cynnal digwyddiad hybrid i randdeiliaid ddydd Llun 2 Rhagfyr yng Nghaerdydd i glywed barn am adroddiad Modiwl 1 ac i nodi unrhyw fylchau posibl
  • Nododd y Pwyllgor fod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Modiwl 1 yn debygol o gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024/mis Ionawr 2025.
  • Bydd y dystiolaeth a gesglir drwy’r ymgynghoriad a’r digwyddiad i randdeiliaid, ynghyd â’r dadansoddiad bylchau gan yr NTU ac ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Modiwl 1, yn cael ei defnyddio gan y Pwyllgor i nodi a chytuno ar unrhyw fylchau o ran parodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19 a ddylai fod yn destun archwilio pellach. Bydd y bylchau hyn yn destun cynnig ar gyfer ystyriaeth y Senedd
  • Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y Pwyllgor yn dechrau cynnal sesiynau tystiolaeth yn gyhoeddus gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol. Nid yw'r Pwyllgor yn rhagweld y bydd y sesiynau hyn yn dechrau tan y flwyddyn newydd.