Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant na dirprwyon.

 

(9.30 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ymgynghori â grwpiau ar y materion a drafodwyd yn gynnar yn nhymor yr hydref.

 

2.2. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

(10.00 - 10.30)

3.

Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd ac ymgynghori â defnyddwyr rheolaidd yr adeilad ynglŷn â’u profiadau.

 

(10.30 - 10.50)

4.

Diwygio'r Mesur Comisiynydd Safonau

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddechrau gwaith paratoi ar Fil i ddiwygio Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

 

(10.50 - 10.55)

5.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.