Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

(9.35 - 9.55)

2.

Ymatebion i'r ymgynghoriad ar lobïo

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytunodd i drefnu grwpiau ffocws, yn ogystal â gofyn am ragor o dystiolaeth gan grwpiau penodol.

 

(9.55 - 10.00)

3.

Trafod Grwpiau Trawsbleidiol

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad ar Grwpiau Trawsbleidiol yn ystod toriad yr haf, ac i adolygu’r dystiolaeth sy’n dod i law yn gynnar yn nhymor yr hydref.

(10.00 - 10.30)

4.

Trafodaeth anffurfiol gyda Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod lobïo â Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban.