Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans. Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. |
||
(10.00 - 11.15) |
Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o'r Senedd: Sesiwn dystiolaeth 20 Huw
Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. Will Whiteley, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru. Ryan Price, Pennaeth
Polisi y Senedd, Llywodraeth Cymru. Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch atebolrwydd
Aelodau unigol gan y tystion a ganlyn: Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; Will
Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru; a Ryan
Price, Pennaeth Polisi y Senedd, Llywodraeth Cymru. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i
benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
||
(11.15 - 12.00) |
Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn
sesiynau 17-20. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i gael rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn dystiolaeth. |
|
(12.00 - 12.30) |
Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o'r Senedd: Sesiwn dystiolaeth 21 Martin Jelley, Comisiynydd
Safonau Tŷ’r Arglwyddi. Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch atebolrwydd
Aelodau unigol gan Martin Jelley, Comisiynydd Safonau Tŷ’r Arglwyddi. |
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd
gan Jonathan Rees KC, a phapur gan y Sefydliad Ymchwil Cyfansoddiadol a
Democrataidd. |
PDF 297 KB